O dan Ran IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, y diffiniad statudol o dir wedi'i halogi yw
tir sy'n ymddangos i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal i fod yn y fath gyflwr, oherwydd sylweddau yn, ar, neu o dan y tir, fel
(a) achosir niwed sylweddol neu fod posibiliad o'r fath niwed sylweddol; neu
(b) achosir, neu mae'n debyg yr achosir, llygredd mewn dŵr rheoledig."
Mae'r diffiniad statudol yn cynnwys tir sy'n achosi risg annerbyniol i iechyd pobl neu i'r amgylchedd yn ei gyflwr presennol dan yr amgylchiadau presennol.
O dan reoliadau newydd, a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2001, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru archwilio tir yn ei ardal am halogiad. Rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi strategaeth archwilio sy'n amlygu sut mae'n bwriadu cyflawni'r archwiliadau mewn modd call, trefnus, ac effeithiol.