Bydd Tîm Diogelwch Bwyd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd rhan yn y cynllun cenedlaethol newydd 'Y Sgôr ar y Ddôr’. Cynllun sgorio hylendid bwyd yw hwn a fydd yn cael ei lansio'n ffurfiol yn Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr 2011. Nod y cynllun yw gwobrwyo busnesau sy'n cydymffurfio'n llawn â'r gofynion cyfreithiol yn ymwneud â hylendid bwyd. Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu o hyd ac mae’r wybodaeth gyfredol amdano wedi cael ei nodi isod. Bydd hyn yn cael ei ddiweddaru pan fydd rhagor o wybodaeth am y cynllun terfynol ar gael.
Y cefndir i'r cynllun
Datblygwyd y cynllun Sgôr ar y Ddôr gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd drwy ymgynghori ag awdurdodau lleol. Mae'n gynllun cenedlaethol ar gyfer sgorio hylendid bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gwahoddwyd pob awdurdod lleol yng Nghymru i fabwysiadu'r cynllun ac mae pob un o’r 22 wedi cytuno i gymryd rhan. Bydd y cynllun yn cael ei lansio'n ffurfiol yn Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr 2011. Mae’n bosibl y bydd y dyddiadau lansio ar gyfer awdurdodau lleol eraill yn amrywio.
Mae 6 haen o sgôr y gellir ei rhoi, yn dibynnu ar y safon a nodir yn yr archwiliad a bydd sgôr pob busnes yn cael ei nodi ar wefan genedlaethol. Yn ogystal, rhoddir tystysgrif/sticer i fusnesau er mwyn iddynt arddangos eu sgôr ar eu safle os dymunant wneud hynny. Bydd y cynllun yn rhoi cyhoeddusrwydd da i'r busnesau hynny sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn ymwneud â hylendid bwyd.
Bydd busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu sgorio o fis Hydref 2010 ymlaen, ond ni fydd y sgorau a'r tystysgrifau'n cael eu cyflwyno hyd nes y bydd y cynllun yn cael ei lansio'n ffurfiol ym mis Ionawr 2011.