1. A fydd modd imi gael gwybod y sgôr sy'n debygol o gael ei rhoi imi cyn i'r cynllun gael ei lansio?
Na fydd, oni bai bod eich busnes yn destun archwiliad a raglennir o fis Hydref 2010 ymlaen.
2. A gaf ofyn am archwiliad i asesu fy sgôr o ran risg cyn i'r cynllun gael ei lansio?
Na chewch. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal yn ystod archwiliad a raglennir o fis Hydref 2010.
3. A fydd modd i ddefnyddwyr weld y sgôr sydd wedi cael ei rhoi imi?
Bydd. Ar ôl lansio'r cynllun bydd eich sgôr yn cael ei nodi ar wefan genedlaethol a byddwch yn derbyn tystysgrif/sticer y gallwch eu harddangos mewn ffenestr ar eich safle os dymunwch wneud hynny. Bydd y cynllun yn rhoi cyhoeddusrwydd da i'r busnesau hynny sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn ymwneud â hylendid bwyd.
4. Ar ôl lansio'r cynllun, os nad wyf yn fodlon ar y sgôr a roddir imi, a gaf apelio?
Cewch, fel y mae hi ar hyn o bryd. Bydd manylion am sut i apelio yn erbyn sgôr yn cael eu hanfon atoch ynghyd â'ch tystysgrif/sticer ar ôl i'r cynllun gael ei lansio.
5. A fydd gwybodaeth yn cael ei rhoi imi ynghylch sut i wella fy sgôr? Bydd. Adeg yr archwiliad/ailymweliad, byddwch yn cael gwybod pa welliannau y mae angen eu gwneud i wella eich sgôr.
6. A gaf ddewis peidio â chymryd rhan yn y cynllun hwn?
Na chewch, oni bai bod eich safle 'wedi'i eithrio' yn ôl y meini prawf presennol. Cynllun cenedlaethol yw hwn y mae Cyngor Sir Caerfyrddin (a phob awdurdod lleol arall yng Nghymru) wedi cytuno i gymryd rhan ynddo er mwyn gwella safonau hylendid bwyd mewn busnesau bwyd yn Sir Gaerfyrddin a gwella cysondeb a symleiddio'r mathau o wobrau a roddir ledled Cymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer y defnyddiwr.
7. Roedd gennyf wobr o'r blaen o dan Gynllun Gwobrau Hylendid Bwyd Cymru. A yw hon yn ddilys o hyd?
Mae trafodaethau'n cael eu cynnal o hyd i benderfynu sut y bydd y cynllun newydd yn effeithio ar y wobr hon ac a fydd yn parhau.
8. Roedd gennyf Wobr Dewisiadau Iach o'r blaen ar gyfer fy musnes. A yw hon yn ddilys o hyd?
Mae trafodaethau'n cael eu cynnal o hyd i benderfynu sut y bydd y cynllun newydd yn effeithio ar y wobr hon.
9. Am ba mor hir y bydd y sgôr newydd yn ddilys?
Mae pob busnes bwyd yn cael ei archwilio yn unol â system sgorio risg. Bydd y sgôr a roddir yr adeg honno'n para tan yr archwiliad/ailymweliad nesaf pan fydd yn cael ei hailasesu. I'r rhan fwyaf o arlwywyr, gall archwiliadau rheolaidd amrywio rhwng pob 6 mis a phob 2 flynedd. Os canfyddir bod safonau'r busnes wedi gostwng, bydd sgôr is yn cael ei rhoi yn unol â hynny.
Yn ogystal, gellir addasu'r sgôr pan fydd hapwiriad e.e. yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd, yn canfod bod y safonau'n is na'r disgwyl.
10. A fydd tâl yn cael ei godi ar fy musnes i gael ei gynnwys yn y cynllun newydd hwn?
Na fydd
11. Nid wyf wedi derbyn llythyr am y cynllun Sgôr ar y Ddôr eto. A yw hyn yn golygu nad yw fy musnes yn gymwys ar gyfer y cynllun?
Dim o reidrwydd. Anfonwyd llythyrau at fusnesau bwyd cymwys ym mis Mehefin 2010 ac mae amrywiaeth o resymau pam nad ydych wedi derbyn llythyr. Efallai nad oedd gennym eich manylion cywir ar ein cronfa ddata, er enghraifft.
12. Beth gallaf ei wneud i wella'r sgôr a roddir imi?
Edrychwch ar adroddiad eich archwiliad diwethaf i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl gamau sy'n ofynnol i fodloni'r gofynion cyfreithiol.
13. Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth am reoli hylendid bwyd yn well?
Edrychwch ar www.food.gov.uk/goodbusiness
14. Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth am y cynllun newydd hwn 'Y Sgôr ar y Ddôr'?
Cysylltwch â'r Tîm Bwyd neu edrychwch ar y wefan www.food.gov.uk/hygieneratings.
15. A fydd pob busnes bwyd yn y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn y cynllun hwn?
Mae'r cynllun ar waith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ond nid yw pob awdurdod lleol yn cymryd rhan ynddo. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cytuno i gymryd rhan.
16. Sut gall y cynllun helpu fy musnes?
Bydd y cynllun yn rhoi cyhoeddusrwydd da i'r busnesau hynny sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn ymwneud â hylendid bwyd.