Mae'r adran hon yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwenwyn bwyd, yn disgrifio'r mathau mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd a'r rhagofalon y gellir eu cymryd.
Mae gwenwyn bwyd yn effeithio ar fwy nag un unigolyn. Mae'n effeithio ar grwpiau o bobl yr un pryd. Er enghraifft mae'n bosibl bod grwp o bobl wedi bwyta'r un bwyd mewn parti neu mewn bwyty neu mae'n bosibl bod bwyd heintiedig yn cael ei werthu mewn mwy nag un lle.
Yn yr achosion hyn bydd swyddogion diogelwch bwyd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymchwilio i'r mater i ddarganfod beth sydd wedi'i achosi. Bydd y swyddogion bwyd yn tynnu sylw pobl eraill at y peryglon, yn cynnig cyngor ac os bydd angen yn erlyn pobl sy'n torri'r rheolau diogelwch bwyd.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd www.food.gov.uk