Gweithredu camau gorfodi
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/1/2010
Gweithredu camau gorfodi 

   Rhybuddion Camau Gorfodi yw dogfennau a gyflwynir gan y Cyngor sy’n gofyn bod y defnydd o’r tir yn peidio a/neu bod unrhyw adeiladau neu strwythurau sydd heb ganiatâd cynllunio yn cael eu symud. Mae’r Cyngor yn canfod enwau holl berchnogion a meddianwyr yr eiddo ac yn sicrhau eu bod yn derbyn rhybudd. Mae’n rhaid i’r rhybudd ei hun nodi’n fanwl y camau y mae’r Cyngor am eu gweld yn cael eu cymryd ac erbyn pa ddyddiad. Mae hawl i apelio i’r Arolygiaeth Gynllunio, a gellir herio’r rhybuddion os nad ydynt yn gywir.

   Pan fo amodau a bennwyd ar gyfer caniatâd cynllunio yn cael eu diystyru, gall y Cyngor gyflwyno “Rhybudd Torri Amod” i’r datblygwr neu’r meddiannwr. Os na chydymffurfir â hyn, gall y Tîm Gorfodi gymryd camau cyfreithiol. Nid oes hawl i apelio yn erbyn Rhybudd Torri Amod. Lle bo hynny’n briodol, bydd y cyngor yn defnyddio’r weithdrefn hon yn hytrach na chyflwyno Rhybuddion Camau Gorfodi. 
 
   Hysbysir yr achwynydd pan gyflwynir y rhybuddion camau gorfodi, pa gamau sy’n ofynnol ynddynt a phryd mae’r cyfnod cydymffurfio’n dod i ben. 
 
   Hysbysir yr achwynydd a’r cymdogion ynghylch unrhyw apêl a gyflwynir yn erbyn rhybudd camau gorfodi, ac ar ba sail y’i gwnaed. Byddant wedyn yn medru cyflwyno sylwadau pellach i’r arolygydd cynllunio sy’n delio â’r achos, ond ni ellir cadw enwau a chyfeiriadau’n gyfrinachol yn y cam hwn. 
 
   Bydd y swyddog gorfodi sy’n gyfrifol am yr achos yn gwneud trefniadau i archwilio’r safle o fewn 21 diwrnod, fan bellach, wedi i’r cyfnod cydymffurfio ddod i ben, er mwyn canfod a fodlonwyd gofynion y rhybudd camau gorfodi. 
 
   Os bydd y datblygiad heb ganiatâd yn parhau yn ei le wedi i’r rhybudd camau gorfodi ddod i rym, bydd y Cyngor yn cychwyn camau cyfreithiol cyn gynted â phosib a bydd yr achwynydd yn cael gwybod am ganlyniad unrhyw erlyniad. Lle bo popeth arall wedi methu, bydd y Cyngor yn ystyried gwneud gwaith ei hun i unioni’r sefyllfa.  

 

 
Manylion Cysyllt
 
Adain Gorfodaeth
Y Gwasanaethau Cynllunio
40 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LQ