English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Gorfodi 

Mae gorfodi rheolau cynllunio yn rhan bwysig o’r broses gynllunio er mwyn diogelu’r amgylchedd. Er nad yw wastad yn drosedd i wneud datblygiad heb gael caniatâd cynllunio, gall fod yn groes i ddeddfau cynllunio ac mae gan y Cyngor y grym i orfodi’r deddfau hynny.

Mae Gorfodi Rheolau Cynllunio yn faes cymhleth iawn. Y rheswm am hynny yw fod y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref yn ceisio cael cydbwysedd rhwng rhyddid y perchnogion i ddefnyddio neu newid eu heiddo fel y mynnant, tra ar yr un pryd yn diogelu amwynderau eu cymdogion a chadw adeiladau ac ardaloedd hanesyddol.

Beth yw 'torri rheolaeth cynllunio'?
 
Gan amlaf, pan mae rhywun eisiau datblygu darn o dir neu adeilad (gan gynnwys newid ei ddefnydd), bydd angen iddynt wneud cais am ganiatâd cynllunio i wneud hynny. Yr enw ar ddatblygiad heb ganiatâd cynllunio yw 'datblygiad anawdurdodedig'.

Mae chwe phrif sefyllfa lle y gellir barnu fod rhywun wedi torri rheolaeth cynllunio:

  Maen nhw’n datblygu safle heb ganiatâd cynllunio.

  Mae ganddynt ganiatâd ond nid ydynt yn cadw at amodau’r caniatâd hwnnw (nid ydynt yn dilyn y cynlluniau, neu’n cadw at yr amodau neu’r cytundeb cyfreithiol a roddwyd ar y caniatâd).

  Maen nhw’n gwneud gwaith allanol neu fewnol i adeilad rhestredig heb ganiatâd adeilad rhestredig.

  Maen nhw’n arddangos arwydd neu hysbyseb heb ganiatâd hysbysebu.

  Maen nhw’n cwympo coeden neu’n gwneud gwaith iddi mewn ardal gadwraeth neu mae’r goeden wedi’i diogelu gan orchymyn cadw coed.

  Maen nhw’n dymchwel adeilad mewn ardal gadwraeth heb ganiatâd.


Mae’n bwysig nodi nad yw’r rhan fwyaf o enghreifftiau o dorri rheolaeth cynllunio yn droseddau, a’r eithriadau i hynny yw pan mae datblygwr yn:

 gwneud gwaith anawdurdodedig i Adeilad Rhestredig
 arddangos hysbysebion heb ganiatâd
 gwneud gwaith ar goeden wedi’i diogelu

Mewn sefyllfaoedd felly, gall y Cyngor gymryd camau cyfreithiol.
 



Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/1/2010
 
Manylion Cysyllt
 
Adain Gorfodaeth
Y Gwasanaethau Cynllunio
40 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LQ

e-bost: gorfodaeth.cynllunio@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio