English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cadwraeth a Chefn Gwlad 
 leaves  autumn trees  hare  river

Rydym yn ystyried diogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn flaenoriaeth uchel yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r Adain Cadwraeth yn gweithio’n egnïol mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r gymuned i helpu i ddarparu amgylchedd o ansawdd uchel, sy’n cadw ei fioamrywiaeth, nodweddion tirluniol a threftadaeth hanesyddol/ddiwylliannol.

Bioamrywiaeth

Ystyr llythrennol hynny yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear. Mae’n cynnwys pob planhigyn ac anifail byw a’r ecosystemau y maen nhw’n dibynnu arnynt. Maent i’w gweld ymhobman o’n cwmpas, mewn gerddi, parciau, minffyrdd, caeau, mynyddoedd, afonydd ac yn y môr. Adeiladau Rhestredig.

Dinefwr Castle

Adeiladau rhestredig

Rydym yn darparu cyngor arbenigol ar y 1800 o adeiladau rhestredig yn y Sir - mae’r rhain yn amrywio o ffermdai bychain i blastai. Mae’r holl adeiladau hyn yn haeddu ystyriaeth arbennig pan gyflwynir cynigion datblygu allai effeithio eu cymeriad.

Ardaloedd Cadwraeth

Ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol arbennig, sy’n bwysig oherwydd eu cymeriad a/neu eu hymddangosiad.

Cadwraeth Coed

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd coed i dreflun y sir ac yn gwneud Gorchmynion Cadw Coed (GCCion) i ddiogelu coed o werth amwynderol, gan roi blaenoriaeth i lwybrau traffig pwysig ledled y sir, safleoedd datblygu a sefyllfaoedd lle y mae coed pwysig mewn perygl.

Menter Treftadaeth Treflun (MTT)

 The Post Office, Llandovery

Cychwynnodd Menter Treflun Llanymddyfri a Llangadog ym mis Ebrill 2001 a daw i ben ym mis  Mawrth 2011. 

Ewch i’r we-dudalen hon i weld y lluniau ‘cyn ac wedyn’ o adeiladau ac eiddo a gwblhawyd yng Ngham 1.  Mae Cam 2 ar waith ar hyn o bryd.



Castell Caerfyrddin "Trwy’r Oesoedd"

Carmarthen Castle  Gwasgwch ar y ddelwedd i weld darluniad 3-D o Gastell Caerfyrddin yn Sir Gaerfyrddin trwy’r oesoedd. (06:28)    Carmarthen Castle



Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/1/2010
 
Manylion Cyswllt
 
Cadwraeth a Chefn Gwlad
Y Gwasanaethau Cynllunio
40 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LQ

E-bost:
cynllunio@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio