English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cael cyngor cyn gwneud cais  
planning advice

Er nad yw'n ofyniad statudol i geisio cyngor cyn gwneud cais, gall Awdurdodau Lleol wneud cyfraniad pwysig o ran helpu ymgeiswyr i gael eu ceisiadau'n iawn, a hynny drwy gyfarfodydd a thrafodaethau cyn bod cais yn cael ei wneud.

Gan amlaf, dylai darpar ymgeiswyr, datblygwyr ac ymgynghorwyr proffesiynol wneud trefniad i weld Swyddog Achos rhanbarth y cais er mwyn gofalu y ceir y budd mwyaf o drafodaethau o'r fath. Gellir ymdrin ag ymholiadau syml dros y ffôn.

Bydd y cyngor a roddir yn gywir ac yn wrthrychol ond ni fydd yn rhwystro’r Cyngor rhag ystyried cais yn ffurfiol. Byddwn yn rhoi gwybodaeth ichi am y polisïau cynllunio perthnasol ac am benderfyniadau blaenorol a lle bo'n briodol, yn nodi ein safonau o ran materion megis darparu lleoedd parcio, lle i amwynderau ac ati. Byddwn hefyd yn eich cynghori ar yr amserlen debygol ar gyfer ymdrin â'ch cais cynllunio ac am y gweithdrefnau i'w dilyn.

Wrth benderfynu ar eich cais, bydd y Cyngor yn ystyried polisïau cynllunio'r Cyngor a'r cyfyngiadau ar gynllunio sy'n berthnasol i'r safle.

Mae nodiadau ar gael sy'n cynghori ar sut mae gwneud cais, yn ogystal â chopïau o bolisïau cynllunio'r Cyngor a dogfennau perthnasol eraill, a llyfrynnau cyffredinol ynghylch y system rheoli datblygu. Yn ogystal, gallwch weld copïau o benderfyniadau blaenorol mewn perthynas â cheisiadau tebyg yn rhanbarth y safle hwn. Pan fydd modd, byddwn yn rhoi cyngor ichi ar y gwahanol fathau eraill o gymeradwyaeth neu ganiatâd y gallai fod eu hangen arnoch.

Mae'n bwysig eich bod yn darparu lluniadau manwl gywir sydd â digon o fanylion ac sy'n defnyddio graddfa gydnabyddedig. Yn aml, gall hefyd fod yn ddefnyddiol ichi drafod eich cais yn anffurfiol â'ch cymdogion cyn ichi wneud eich cais.

Datblygiadau gan Ddeiliad Tŷ

Os hoffech gael cadarnhad ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer cais, dylech gwblhau a dychwelyd y Ffurflen Ymholiad Rhagarweiniol – Datblygiad gan Ddeiliad Tŷ. 

Datblygiadau Mawr neu Brosiectau Arbennig

O ran cynlluniau mwy o faint a mwy cymhleth, argymhellir yn gryf (ac mae'n arfer cyffredin) fod datblygwyr yn trafod â'r Is-adran Gynllunio cyn cyflwyno cais.

Mae'r trafod ynglŷn â'r cynlluniau hyn yn debygol o barhau ar ôl cyflwyno'r cais hyd nes y penderfynir yn ei gylch. Yn aml iawn mae'n ofynnol cael gwybodaeth ategol helaeth am y ceisiadau hyn, sydd fel arfer yn cynnwys Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol

Mae'n rhaid cyflwyno datganiad amgylcheddol gyda chynlluniau sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Mae'r datganiad yn rhoi sylw i effeithiau posibl y cynlluniau ar yr amgylchedd, ac i'r posibilrwydd o addasu'r ceisiadau neu leihau eu heffaith. Dylid ystyried, cyn gwneud cais, a oes angen cynnal Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

"Sgrinio barn" yw enw'r broses ffurfiol a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio wrth benderfynu a yw Asesiad o'r fath yn ofynnol.  Os bydd Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn ofynnol, mae ail broses, a elwir yn "ymarfer cwmpasu", yn cael ei chynnal i benderfynu ar union gynnwys y Datganiad Amgylcheddol dilynol (hon yw'r ddogfen sy'n cael ei llunio ar ôl yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol).

Mae Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn ddull pwysig o asesu effeithiau amgylcheddol tebygol datblygiad newydd. Drwy baratoi Datganiad Amgylcheddol, sicrheir bod pobl yn deall effeithiau'r datblygiad yn llawn ac yn rhoi ystyriaeth iddynt cyn rhoi caniatâd i'r datblygiad fynd rhagddo.




Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/3/2010
 
Manylion Cyswllt