Cyn cwblhau, rhaid i'r setiau priodol o brofion inswleiddio sain gael eu cynnal yn unol ag adran 1 o'r ddogfen gymeradwy ynghylch Rhan E. Dylai'r cyrff profi feddu ar achrediad priodol gan drydydd parti (dylent fod ar gofrestr UKAS, sef Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig neu'r ANC, sef y Gymdeithas Ymgynghorwyr Sŵn).
Rhaid cytuno â'r gwasanaethau Rheoli Adeiladu yn gynnar yn y datblygu ynghylch yr eiddo priodol sydd i gael eu profi.