English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Adeiladau wedi’u heithrio 
Exempt Buildings

Ystyrir bod rhai adeiladau wedi’u heithrio o ofynion y Rheoliadau Adeiladu. Yn gyffredinol, dyma’r mathau o adeiladau lle byddai cymhwyso’r rheoliadau yn rhy feichus. Mewn achosion o’r fath, gallwch adeiladu heb gymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu.


Er y gall fod eich cynigion wedi’u heithrio o’r Rheoliadau Adeiladu, gall fod arnoch angen caniatâd cynllunio o hyd.

Cyn i chi fynd yn eich blaen, fe’ch cynghorir i hysbysu’r Cyngor (yr adain Rheoli Adeiladu a Gwasanaethau Cynllunio) gan roi manylion ysgrifenedig a brasluniau o’ch cynigion.

Yna, byddant yn cadarnhau a yw’r gwaith wedi’i eithrio a gallwch gadw’r cadarnhad gyda manylion eich eiddo i gyfeirio ato yn y dyfodol os bydd angen prawf pan fyddwch yn gwerthu eich eiddo neu am unrhyw reswm arall.

Enghreifftiau o adeiladau wedi’u heithrio

Ystafelloedd Gwydr

Ystyrir mai’r diffiniad o ystafell wydr yw rhan un llawr o adeilad ar lefel y llawr daear, lle mae’r to a’r waliau wedi’u gwydro yn sylweddol gyda deunydd tryleu neu dryloyw, â’r bwriad o dyfu planhigion, ond a ddefnyddir yn aml fel lle byw achlysurol.

Er mwyn iddo fod wedi’i eithrio, mae’n rhaid i’ch estyniad ystafell wydr fodloni’r meini prawf canlynol:-

l Rhaid iddo fod ar lefel y llawr daear yn unig.
l Bod ganddo un llawr.
l Ni ddylai arwynebedd y llawr mewnol fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
l Bod gan ystafell wydr heb fod yn llai na thri chwarter arwynebedd ei tho a heb fod yn llai na hanner arwynebedd ei waliau allanol wedi’u gwneud o ddeunydd tryleu.
l Ni ddylid ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw / cysgu).
l Rhaid cadw drysau mynediad a/neu ffenestri allanol presennol.
l Rhaid defnyddio gwydr diogelwch.

Cynteddau

Y diffiniad o gyntedd yw estyniad un llawr, a ddefnyddir yn bennaf fel lloches rhag y gwynt, ond a ddefnyddir hefyd i storio cotiau, esgidiau, ymbarelau ac ati, sydd wedi’i gysylltu ag adeilad presennol ar lefel y ddaear a’i osod dros ddrws mynediad.

Er mwyn iddo fod wedi’i eithrio, mae’n rhaid i’ch estyniad cyntedd fodloni’r meini prawf canlynol:-

l Rhaid iddo fod ar lefel y llawr daear yn unig.
l Ni ddylai arwynebedd y llawr mewnol fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
l Ni ddylid ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw / cysgu).
l Rhaid cadw drysau mynediad a/neu ffenestri allanol presennol.
l Rhaid defnyddio gwydr diogelwch.

Pyrth Ceir

Er mwyn iddo fod wedi’i eithrio, mae’n rhaid i’ch porth ceir fodloni’r meini prawf canlynol:-

l Rhaid iddo fod ar lefel y llawr daear yn unig.
l Ni ddylai arwynebedd y llawr mewnol fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
l Rhaid i’r porth ceir fod yn agored ar ddwy ochr o leiaf.

Garej

Er mwyn iddi fod wedi’i heithrio, mae’n rhaid i’ch garej fodloni’r meini prawf canlynol:-

l Rhaid iddi fod ar wahân.
l Ni ddylai arwynebedd y llawr mewnol fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
l Mwy nag 1 metr oddi wrth y ffin neu wedi’i hadeiladu o waith brics neu waith blociau.

Sied

Er mwyn iddi fod wedi’i heithrio, mae’n rhaid i’ch sied fodloni’r meini prawf canlynol:-

l Rhaid iddi fod ar wahân.
l Ni ddylai arwynebedd y llawr mewnol fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
l Mwy nag 1 metr oddi wrth y ffin neu wedi’i hadeiladu o waith brics neu waith blociau.
l Ni ddylid ei defnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw / cysgu).
l Os yw wedi’i hadeiladu o bren ac nad yw mwy nag 1m oddi wrth y ffin, rhaid i arwynebedd y llawr fod yn llai na 15 metr sgwâr.

Adeiladau amaethyddol a thai gwydr

Dylid defnyddio’r rhain i gadw anifeiliaid neu blanhigion yn bennaf ond ni ddylid eu defnyddio ar gyfer manwerthu, pacio neu arddangos. Ni ddylid defnyddio unrhyw ran o’r adeilad fel annedd.

Adeiladau atodol

Mae’r rhain yn cynnwys swyddfa werthu ar safle, swyddfeydd ar safleoedd adeiladu, dylid eu defnyddio yn ystod gwaith adeiladu yn unig ac ni ddylent gynnwys lle cysgu.
 

 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/3/2010
 
Manylion Cysyllt
 
Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio