Rhan P – Rheolau ar gyfer Diogelwch Trydanol yn y Cartref
Mae’r rheoliadau Rhan P newydd, sy’n ymwneud â gwaith trydanol, yn berthnasol i dai / fflatiau annedd yn bennaf, gan gynnwys gerddi, tai allan fel siediau, garejis ar wahân a thai gwydr. O 1 Ionawr 2005, mae’r gwaith o ddylunio, gosod, archwilio a phrofi gosodiadau trydanol sy’n gysylltiedig â’r anheddau hyn yn disgyn dan y Rheoliadau Adeiladu.
Mae’r rheolau newydd wedi’u cyflwyno er mwyn:
l Lleihau nifer y marwolaethau, anafiadau a thanau a achosir gan osodiadau trydanol diffygiol
l Rhwystro adeiladwyr anghofrestredig rhag gadael gosodiadau trydanol mewn cyflwr anniogel
Os nad ydych yn dilyn y Rheoliadau Adeiladu newydd:
l Efallai na fydd y gwaith trydanol a wnaed yn ddiogel
l Gallwch brofi anhawster wrth werthu eich cartref os nad ydych yn meddu ar y tystysgrifau cywir
l Gallwn fynnu eich bod yn cywiro gwaith diffygiol
Gwaith y mae angen cymeradwyaeth ar ei gyfer
Bydd angen cymeradwyaeth dan Ran P ar gyfer gwaith sy’n cynnwys ychwanegu cylched newydd neu waith trydanol mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi neu unrhyw rai o’r lleoliadau arbennig hyn.
l Lleoliadau sy’n cynnwys cyfleuster bath neu gawod
l Pyllau nofio neu byllau padlo
l Sawnau
l Systemau gwresogi trydan ar y llawr neu’r nenfwd
l Goleuadau neu osodiadau pŵer yn yr ardd
l Generaduron graddfa fach fel micro-unedau gwres a phŵer cyfunedig.
l Gosodiadau golau foltedd isel iawn, ac eithrio setiau golau parod â marc CE
Pa opsiynau sydd gennyf?
Bydd angen gwneud cais dan y Rheoliadau Adeiladu oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud gan drydanwr sydd wedi’i gofrestru dan y Cynllun Person Cymwys.
Pam y dylwn i ddefnyddio gosodwr sydd wedi’i gofrestru gyda chynllun person cymwys?
l Mae’r aelodau yn gymwysedig ac wedi’u cymeradwyo i wneud y gwaith ar eich cyfer.
l Bydd yr aelodau yn rhoi tystysgrif i chi i gadarnhau bod eu gwaith yn dilyn y rheolau newydd.
l Ni fydd angen i chi gael cymeradwyaeth gan yr adain Rheoli Adeiladu.
l Bydd gennych opsiwn i brynu gwarant a gefnogir gan yswiriant ar gyfer y gwaith.
l Bydd gennych fynediad at weithdrefn gwyno ffurfiol os nad ydych yn fodlon â’r gwaith.