Mae’r rhan fwyaf o Brosiectau Adeiladu yn gorfod cael eu cymeradwyo trwy’r Rheoliadau Adeiladu, ac maen nhw’n cynnwys:-
l Adeiladu Tŷ, Swyddfa, Siop, Ffatri, Gwestai, Ysgolion newydd a llawer o fathau eraill o adeiladau.
l Rhoi estyniad ar unrhyw adeilad, oni bai fod yr estyniad yn borth neu lolfa haul (gweler isod).
l Newidiadau adeiladweithiol a wneir ar adeiladau, ee. dymchwel waliau sy’n ysgwyddo baich.
l Newidiadau i systemau draenio, systemau gwresogi a systemau dŵr twym.
l Newidiadau mewnol i adeiladau masnachol sy’n effeithio llwybrau dianc adeg tân.
l Adnewyddu elfennau thermol
l Inswleiddio Waliau Ceudod.
l Tanategu.
l Ffenestri Newydd.
l Rhai mathau o newid defnydd Adeiladau.
Mae rhai prosiectau wedi’u heithrio o Reoliadau Adeiladu, ac maen nhw’n cynnwys:
l Y rhan fwyaf o Adeiladau Amaethyddol.
l Adeiladau Dros Dro na fwriedir iddynt fod yn eu lle am fwy na 28 diwrnod.
l Adeiladau Ar Wahân nad ydynt yn cynnwys unrhyw gyfleusterau cysgu ac nad yw eu harwynebedd llawr yn fwy na 15m2 ee. siediau gardd.
l Adeiladau Ar Wahân nad yw eu harwynebedd llawr yn fwy na 30m2 nad ydynt yn cynnwys unrhyw gyfleusterau cysgu ac sydd i raddau helaeth yn anhylosg neu sydd wedi’u lleoli o leiaf 1m o ffiniau’r eiddo ee. Modurdai sengl neu ddwbl bychan ar wahân sydd wedi’u hadeiladu o waith maen.
l Pyrth nad yw eu harwynebedd llawr yn fwy na 30m2 ar yr amod fod y drws yn cael ei gadw yn safle presennol y drws ffrynt.
l Lolfeydd Haul nad yw eu harwynebedd llawr yn fwy na 30m2 ar yr amod fod y lolfa haul wedi’i gwahanu o’r tŷ, ei fod yn adeilad unllawr, wedi’i adeiladu’n bennaf o wydr a bod iddo do lled dryloyw.
l Pyrth Ceir sy’n agored ar ddwy ochr o leiaf.
l Llwybrau gorchuddiedig.
l Gwaith a gyflawnir gan Bersonau Cymwys
Os ydych yn amau o gwbl a oes angen caniatâd Rheoliadau Adeiladu ar eich prosiect chi, cysylltwch â ni ac fe fyddwn yn falch o’ch cynghori.