
Mae’r gwasanaeth cynllunio’n cael ei rannu’n nifer o adeiniau arbenigol, sy’n cydweithio i ddefnyddio eu harbenigedd mewn prosiectau unigol a’r gwasanaeth yn gyffredinol. Yr adeiniau yw: Rheoli Datblygu, Rheoli Adeiladu, Cadwraeth a Chefn Gwlad, Blaen-gynllunio a Gorfodi Rheolau Cynllunio.
l Newyddion cynllunio
Y newyddion diweddaraf am gynllunio a rheoli adeiladu yn Sir Gaerfyrddin.
l Ceisiadau cynllunio (Rheoli Datblygu)
Cyfle i chwilio a gweld ceisiadau cynllunio presennol a blaenorol, i gyflwyno ceisiadau ar-lein, i lawr lwytho ffurflenni cais, ffioedd, agendau a chofnodion, ac i gael gwybod sut mae proses ceisiadau cynllunio yn gweithio.
l Rheoli Adeiladu
Proses ceisiadau rheoliadau adeiladu, cyngor a chanllawiau e.e. Dogfennau a Gymeradwywyd, eithriadau, dechrau gweithio ar y safle a Gwobrau Adeiladu.
l Cynlluniau Datblygu a Pholisi Cynllunio (Blaen-gynllunio)
Mae’r adain Blaen-gynllunio yn gyfrifol am y Cynllun Datblygu Unedol Mabwysiedig, sy’n darparu polisïau i arwain datblygiadau yn y Sir y mae penderfyniadau cynllunio yn seiliedig arnynt. Mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu’r Cynllun Datblygu Lleol, fydd yn disodli’r CDU. Mae gwybodaeth am ddogfennau cynllunio atodol a dogfennau polisïau cynllunio hefyd ar gael i’w gweld.
l Cadwraeth a Chefn Gwlad
Mae’r adain yn gweithredu cynlluniau grantiau adeiladau hanesyddol y Cyngor ac yn rhoi cyngor ar adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, diogelu coed, cloddiau a thirlunio. Mae gwybodaeth hefyd ar gael am fioamrywiaeth, tir comin a Choed Cymru.
l Gorfodi Rheoli Cynllunio a Mwynau
Pwrpas deddfau cynllunio yw rheoli datblygu a’r defnydd o dir ac adeiladau er lles y cyhoedd. Mae Gorfodi Rheolau Cynllunio yn cyflawni ystod o weithgareddau er mwyn helpu gweithredu deddfau cynllunio a sicrhau bod unigolion a busnesau yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Sut i wneud cŵyn am orfodaeth a chŵyn am gloddiau uchel.
l Apeliadau Cynllunio
Os nad yw eich cais yn cael ei benderfynu o fewn cyfnod penodol, neu os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad a wneir ar eich cais, mae gennych hawl i apelio. Gallwch apelio hefyd yn erbyn hysbysiad gorfodaeth. Gallwch chwilio a gweld manylion trwy ddefnyddio’r gofrestr apeliadau.