
Ystyr bioamrywiaeth yn llythrennol yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear. Mae’n cynnwys pob planhigyn ac anifail byw a’r ecosystemau y maent yn dibynnu arnynt.
Mae i’w weld ymhobman o’n cwmpas, mewn gerddi, parciau, minffyrdd, caeau, mynyddoedd, afonydd ac yn y môr.
Mae nifer o ffyrdd y gallwn oll helpu cadw bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin a gall pawb gymryd rhan! Gall hyd yn oed newidiadau syml wneud gwahaniaeth.
Mae’r prydferthwch naturiol hwn yn ffactor pwysig y mae’r diwydiannau twristiaeth a hamdden lleol yn dibynnu arno. Mae bioamrywiaeth felly’n sylfaenol bwysig i les ffisegol, economaidd ac ysbrydol pawb sy’n byw sy’n byw a gweithio yn Sir Gaerfyrddin.