English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Trwyddedu Anifeiliaid  

Mae gan swyddogion Lles Anifeiliaid y Cyngor gyfrifoldeb am:

  • Roi cyngor ar agweddau trwyddedu anifeiliaid
    Archwilio, a thrwyddedu, safleoedd sy'n destun i ddeddfwriaeth anifeiliaid, megis llety cŵn, llety cathod, siopau anifeiliaid anwes, sefydliadau marchogaeth, ac eraill.
  • Archwilio cwynion am les anifeiliaid yn y fath sefydliadau
  • Gweithredu'n ffurfiol yn erbyn troseddwyr lle nad yw camau eraill yn llwyddo
  • Ymchwilio i gwynion am weithgareddau anghyfreithlon

Mae angen trwydded ar gyfer: Sefydliadau Marchogaeth, cadw anifeiliaid gwyllt peryglus, llety cŵn, llety cathod, sefydliadau bridio cŵn, a siopau anifeiliaid anwes.

Byddwn yn rhoi trwydded i weithredu o dan y ddeddfwriaeth berthnasol, cyhyd â bod yr ymgeisydd yn gweithredu'n unol â'r safonau a osodir. Archwilir y safleoedd trwyddedig fel mater o drefn o leiaf unwaith y flwyddyn. Os na fydd daliwr trwydded yn cydymffurfio â'r amodau a osodir, gall wynebu gweithredu ffurfiol os bydd camau eraill yn aflwyddiannus.

Dylech hefyd sicrhau fod gennych y caniatâd cynllunio priodol.  Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag is-adran cynllunio'r Cyngor Sir.

Ffioedd Trwyddedu

Mae'r Ffioedd Blynyddol fel a ganlyn o fis Ebrill 2008:

£

Sefydliadau Bridio Cŵn

Ffïoedd Milfeddyg

100.00

Rhwng 1 a 10 o gŵn

70.00

Rhwng 11 a 25 o gŵn

100.00

Rhwng 26 a 50 o gŵn

130.00

Dros 50 o gŵn

160.00

Trwydded ar gyfer Anifail Gwyllt Peryglus (Ac Eithrio Ffi'r Milfeddyg)

150.00

Trwydded Sefydliad Marchogaeth (Gan Gynnwys Ffi'r Milfeddyg

-

Rhwng 1 ac 20 o geffylau

160.00

Rhwng 20 a 50 o geffylau

220.00

Dros 50 o geffylau

270.00

Sefydliadau Llety Anifeiliaid

70.00

Trwydded Siop Anifeiliaid Anwes

70.00

Sŵau (Ac Eithrio Ffi'r Milfeddyg)

70.00

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/8/2008
 
Manylion Cysyllt
 

Carmarthenshire Direct 

Adain Iechyd Cyhoeddus
Diogelu'r Cyhoedd
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1LE

Ffôn: 0845 658 0445
E-bost: galw@sirgar.gov.uk