English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 13/7/2010
Deddf Hapchwarae 2005 


Mae Deddf Hapchwarae 2005 yn creu system newydd ar gyfer trwyddedu a rheoli hapchwarae masnachol yn y wlad hon.

Ymhlith newidiadau eraill, mae’n rhoi cyfrifoldebau newydd a helaethach i awdurdodau lleol ym maes trwyddedu safleoedd hapchwarae. Mewn rhai achosion (megis mewn arcedau peiriannau hapchwarae), mae’r rheiny’n ychwanegol at eu cyfrifoldebau presennol.

 Y Polisi Hapchwarae Deddf Hapchwarae 2005.doc

Fodd bynnag mewn meysydd pwysig eraill, gan gynnwys betio, hapchwarae mewn casino a bingo, maent yn trosglwyddo i’r awdurdodau lleol gyfrifoldebau a oedd gynt yn gyfrifoldebau’r ynadon trwyddedu lleol.

1.      Bydd y Comisiwn Hapchwarae yn gyfrifol am roi trwyddedau gweithredu a thrwyddedau personol i weithredwyr hapchwarae masnachol ac i bersonél sy’n gweithio yn y diwydiant. Bydd hefyd yn rheoleiddio rhai hyrwyddwyr a rheolwyr loteri.


Swyddogaethau’r Awdurdodau Trwyddedu

2.      Mae’r Ddeddf yn rhoi i awdurdodau lleol nifer o swyddogaethau rheoleiddio pwysig mewn perthynas â hapchwarae. Y canlynol fydd eu prif swyddogaethau:

  • Trwyddedu safleoedd sy’n cynnig gweithgareddau hapchwarae;
  • Ystyried hysbysiadau a roddwyd i ddefnyddio safleoedd at ddibenion hapchwarae, dros dro;
  • Rhoi hawlenni ar gyfer hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn clybiau a chanolfannau lles y glowyr;
  • Rheoleiddio hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn safleoedd sydd â thrwydded i werthu alcohol;
  • Rhoi hawlenni  i ganolfannau adloniant i’r teulu a hynny ar gyfer defnyddio rhai peiriannau hapchwarae lle mentrir symiau bach;
  • Rhoi hawlenni ar gyfer cynnig gwobrwyon;
  • Ystyried hysbysiadau defnydd achlysurol ar gyfer betio ar draciau; a
  • Chofrestru loterïau’r cymdeithasau bach.  
     

Trwyddedau Safle

3.      Bydd trwyddedau safle yn cael eu rhoi gan yr awdurdodau trwyddedu a gallant awdurdodi darparu cyfleusterau yn y lleoedd canlynol:

  • Safleoedd Casinos;
  • Safleoedd Bingo;
  • Safleoedd lle ceir betio, gan gynnwys traciau;
  • Canolfannau hapchwarae i oedolion; a
  • Chanolfannau Adloniant i’r Teulu.


4.    Ac eithrio mewn achosion sy’n ymwneud â thraciau (lle efallai nad  y trac-feddiannwr sy’n cael y drwydded safle yw’r un sy’n cynnig yr hapchwarae), ni fydd trwyddedau safle yn cael eu rhoi oni bai fod yr ymgeisydd yn ddeiliad trwydded berthnasol ar gyfer gweithredwr hapchwarae: er enghraifft, i gael trwydded safle bingo, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn ddeiliad trwydded gweithredwr bingo. Gellir trosglwyddo trwyddedau safle i rywun arall sy’n ddeiliad trwydded weithredu ddilys.

www.gamblingcommission.gov.uk