Mae'r Wardeiniaid Cŵn yn gyfrifol am ddal cŵn strae, ac yn aml gwneir hyn o ganlyniad i alwadau ffôn gan y cyhoedd neu drwy fod ar batrôl yn y sir.
Mae hyn yn cynnwys cadw cŵn strae mewn cynelau a threfnu archwiliadau milfeddygol, os bydd angen.
Bellach, gallwch roi gwybod am gi strae ar-lein drwy gwblhau ein ffurflen gais am wasanaeth warden cŵn
Ffurflen Rhoi Gwybod am Gi Strae Ar-lein
Ffioedd a Thaliadau am Gŵn Strae
£52.50 am ddiwrnod cyntaf y llociad, neu am ran o ddiwrnod.
£17.50 y diwrnod o hynny ymlaen tan ddiwrnod naw.
|
Am y diwrnod 1af neu ran o'r diwrnod |
£52.50 |
|
Diwrnod 2 |
£52.50 |
|
Diwrnod 3 |
£52.50 |
|
Diwrnod 4 |
£52.50 |
|
Diwrnod 5 |
£70.00 |
|
Diwrnod 6 |
£87.50 |
|
Diwrnod 7 |
£105.00 |
|
Diwrnod 8 |
£122.50 |
|
Diwrnod 9 |
£140.00 |
Talu am gael Ci Strae yn ôl
Gellir gwneud taliadau am gŵn strae yng Nghanolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor
Pan fo taliad yn cael ei wneud, byddwch chi'n cael derbynneb a dylid mynd â hon gyda chi i'r cynelau wrth gasglu eich ci.
Rhaid i'r ci gael ei gasglu erbyn 5pm
Hefyd gellir gwneud taliad drwy ddefnyddio carden gredyd. I wneud hyn, cysylltwch â desg arian Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267 228686
Caiff cŵn sy'n gwisgo coleri a thagiau mewn llefydd cyhoeddus (sy'n rheidrwydd cyfreithiol o dan Orchymyn Rheoli Cŵn 1992) eu dychwelyd i'w perchnogion yn rhad ac am ddim am y tro cyntaf yn unig os yw'r warden cŵn yn dod o hyd i'r ci a bod modd cysylltu â'r perchennog ar unwaith
Os yw'r warden cŵn yn methu â chysylltu â pherchennog y ci, caiff y ci ei locio a bydd y ffioedd uchod mewn grym.
Ar ôl 7 diwrnod clir, ceisir dod o hyd i gartref newydd ar gyfer y cŵn sydd heb eu hawlio. Mae gan y Cyngor bolisi i beidio â dinistrio'r cŵn.
Cŵn Peryglus
Mae gan y Gwasanaeth Wardeiniaid Cŵn, ochr yn ochr â'r Heddlu, ddyletswydd i ddelio â Chŵn Peryglus. Mae Deddf Cŵn Peryglus 1991 yn ei gwneud hi'n drosedd i berchennog y ci neu'r sawl sydd yn gyfrifol am y ci ganiatáu i'r anifail fod allan o reolaeth mewn Lle Cyhoeddus. Yn ogystal â chael eich erlyn, mae'r ddeddf yn caniatáu i unrhyw anifail peryglus o'r fath gael ei ddal a'i ddifa.
Addysg
Hefyd bydd y Warden Cŵn yn cynnal sgyrsiau mewn Ysgolion ac ati (pan fo amser yn caniatáu), er mwyn pwysleisio pa mor bwysig ydyw i berchnogion cŵn fod yn gyfrifol a'r problemau sy'n gallu codi pan nad yw'r cŵn yn cael y gofal priodol.
Awgrymiadau Atal
Mae nifer o gamau syml y gallwch chi eu cymryd er mwyn sicrhau, os yw hwn yn digwydd ichi, y byddai eich ci yn cael ei ddychwelyd ichi gyda chyn lleied o oedi a chyn lleied o drawma i'ch ci ag sydd yn bosibl.
-
Sicrhewch fod gan eich ci labed enw sy'n dangos eich cyfeiriad a'ch rhif ffôn. (Mae hyn yn rheidrwydd cyfreithiol - Deddf Rheoli Cŵn 1992).
-
Trefnwch fod gan eich ci ficrosglodyn sy'n gallu cael ei ddarllen gan sganiwr arbennig.
Gallwn ni ddarllen y wybodaeth sydd wedi'i storio ar y microsglodyn drwy ddefnyddio sganiwr ac wedyn gellir cysylltu â pherchennog y ci i ddweud bod y ci yn ddiogel.
Mae'r Gwasanaeth Wardeiniaid Cŵn yn delio â PHOB ci strae yn Sir Gaerfyrddin.
Os ydych chi wedi colli eich ci, dylech gysylltu â'r Ganolfan drwy ffonio 01267 234567 a bydd modd i'r staff yno edrych a yw eich ci wedi ei locio ai peidio.