Mae holl staff y Cyngor wedi cael eu hannog i sefydlu a chymryd rhan mewn Timau Gwyrdd yn ein prif adeiladau, ac mae naw wedi cael eu sefydlu hyd yma yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Mae'r timau'n draws-adrannol ac yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'r adeilad penodol hwnnw.
Gall y rhain amrywio o ddefnyddio ynni (gan gynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni a'r defnydd o ddeunyddiau adnewyddadwy) a defnydd o ddŵr, i wastraff, ailgylchu a chludiant. Aelodau'r grŵp sydd i benderfynu pa gamau sydd eu hangen ac i weithredu'r newidiadau hyn gyda chymorth Neil Evans y swyddog ynni corfforaethol.
Nod cyffredinol y Timau Gwyrdd yw sicrhau bod y defnydd o ynni a'r ôl troed carbon yn yr adeilad hwnnw'n lleihau.
Hyd yma maent wedi gweithredu amryw o fesurau, gan gynnwys:
- archwiliadau effeithlonrwydd ynni a negeseuon i hyrwyddo mwy o effeithlonrwydd;
- gosod bylbiau golau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ym mhrif adeiladau'r Cyngor;
- gosod dyfeisiau diffodd peiriannau er mwyn lleihau faint o ynni a ddefnyddir;
- gosod 'hippos' (dyfeisiau arbed dŵr) yn y toiledau;
- cynyddu nifer y biniau ailgylchu sydd ar gael;
- cael cwpanau gwydr yn lle'r cwpanau plastig (sy'n dod gyda'r oeryddion dŵr);
- hyrwyddo cynlluniau beicio i'r gwaith.
Gyda chefnogaeth y Prif Weithredwr maent yn hyderus y bydd eu syniadau a'u cynlluniau, os ydynt yn ymarferol, yn cael cefnogaeth.
Mae presenoldeb y Timau Gwyrdd swyddogol yn ein hadeiladau yn arwydd clir i'r holl staff o bwysigrwydd yr amgylchedd a chynaliadwyedd i'r awdurdod.
Mae’r Arbedion Cynyddol ar ddiwedd 2006/07 (ers cychwyn rhaglen effeithlonrwydd ynni corfforaethol y cyngor) yn cynnwys:
- ynni a ddefnyddir - 24.6 MWh
- dŵr a ddefnyddir - 246,059 metrau ciwbig
- arbedion ariannol - dros £1,368,213
- CO2 a ollyngir - 6,690 tunnell
Mae'r trydan a ddefnyddir yn Nhŷ Elwyn, Llanelli, yn unig wedi gostwng 8.39% ers y cyflwynwyd y dyfeisiau diffodd peiriannau. Mae hyn wedi arbed 32,000 kWh sy'n gyfwerth â 13.75 tunnell o CO2 neu £2500.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Neil Evans, Swyddog Ynni Corfforaethol (01267 224124, DNEvans@sirgar.gov.uk ).