Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman – Adeilad 17

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman – Adeilad 17 

Disgrifiad o'r Prosiect:

Diben y prosiect yw helaethu ac addasu'r ysgol bresennol. Cafodd adeilad 17 ei godi er mwyn creu adeilad AAA modern a fydd yn darparu ar gyfer anawsterau dysgu ar bob lefel.


Gradd a sgôr BREEAM:

Mae'n ofynnol fod Adeilad 17 yn cyrraedd safon 'Rhagorol' BREEAM. 77.67% oedd y sgôr a gyflawnwyd yn yr asesiad interim.


Y canlynol yw nodweddion dylunio arloesol yr adeilad isel ei effaith hwn

Nodweddion Ystadegau/Ffigurau/Mesuriadau
Cost adeiladu sylfaenol £766,373.18
Costau gwasanaethau £254,590.00
Gwaith allanol £58,271.00
Arwynebedd llawr gros 1,717.4m2
Cyfanswm arwynebedd y safle 11.43 hectar;
Mathau o ystafelloedd a'u maint Amherthnasol
Arwynebedd y mannau cylchdroi 269m2
Arwynebedd y mannau storio 320.5m2
% o arwynebedd y tir a ddefnyddir gan y gymuned Amherthnasol
% o arwynebedd yr adeiladau a ddefnyddir gan y gymuned Amherthnasol
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan: goleuadau 8.67 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan: offer 20.96kWh/m2
Y rhagolygon o ran llosgi tanwydd ffosil 30.87 kWh/m2
Y rhagolygon o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy  2.84 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio dŵr 2.96 m3/y person/y flwyddyn
% y dŵr a ddefnyddir y rhagwelir y bydd yn ddŵr glaw neu'n ddŵr llwyd 40%

Y camau a gymerwyd yn ystod y broses adeiladu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd
Manylwyd ar dechnegau rheoli adeiladu arloesol yng Nghynllun Rheolaeth Amgylcheddol y Prosiect a'r canlynol yw'r prif nodau ac amcanion:

§   Gwaredu llygryddion

§   Lleihau'r effaith ar blanhigion, anifeiliaid a thrigolion lleol

§   Defnyddio llai o ynni

§   Ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddefnyddiau â phosibl

§   Rhoi sylw i ystyriaethau amgylcheddol wrth ddewis defnyddiau a chydrannau

§   Hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith y staff, yr is-gontractwyr a'r cyflenwyr

§   Addasu yn sgil sylwadau a ddaeth i law yn dilyn asesiadau amgylcheddol pellach ac ymrwymiadau y cytunir arnynt mewn trafodaethau â thrigolion a/neu fudiadau lleol.


Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd.

Roedd angen creu adeilad newydd sy'n dangos fod Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Y broblem bennaf o ran yr adeiladau presennol oedd diffyg cydlyniaeth a llwybrau allanol troellog. Roedd angen ychwanegu adeiladau newydd ond cyfran fach o'r gwaith cyfan yw'r rhain gan fod gwaith dymchwel ac ailadeiladu yn fwy costus na gwaith addasu.

Darparwyd adeiladau i ddatblygu adnoddau allweddol ar gyfer Anghenion Addysg Arbennig (Adeilad 17) a datblygu'r chweched dosbarth ynghyd â darparu derbynfa / mannau gweinyddu i groesawu ymwelwyr â'r ysgol (Adeilad 1).

Ar ôl ei hailddatblygu bydd modd i'r ysgol ddarparu digon o fannau addysgu a chymdeithasu digonol eu maint sy'n llecynnau dymunol ar gyfer gweithio a dysgu. Bydd yr ysgol yn cael ei haddasu a darperir cyfleusterau ychwanegol i sicrhau'i bod yn gwbl gynhwysol ac yn helpu pob plentyn.

 

Yn ogystal â'r materion uchod, mae'r prosiect wedi cyflawni'r canlynol:

§   Cyflawnwyd credyd cyntaf Man6: Ymgynghori (yn unol â safonau Addysg BREEAM 2008);

§  Mae defnyddwyr yr adeilad, wedi ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys ymweliadau rheolaiddgan athrawon a disgyblion ysgol.

§    Bu defnyddwyr yr adeilad a rhanddeiliaid allweddol yng nghyfarfodydd y Tîm Dylunio.

Cysylltu â Ni 

Am ragor o wybodaeth am Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman – Adeilad 17 cysylltwch â:

Meirion Jones, Arweinydd Tîm Dylunio
Ffôn: 01267 234567 (extension 5226)
E-bost: Dmeirjones@sirgar.gov.uk

Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/4/2013