Disgrifiad o'r Prosiect:
Diben y prosiect yw helaethu ac addasu'r ysgol bresennol. Cafodd adeilad 17 ei godi er mwyn creu adeilad AAA modern a fydd yn darparu ar gyfer anawsterau dysgu ar bob lefel.
Gradd a sgôr BREEAM:
Mae'n ofynnol fod Adeilad 17 yn cyrraedd safon 'Rhagorol' BREEAM. 77.67% oedd y sgôr a gyflawnwyd yn yr asesiad interim.
Y canlynol yw nodweddion dylunio arloesol yr adeilad isel ei effaith hwn
| Cost adeiladu sylfaenol |
£766,373.18 |
| Costau gwasanaethau |
£254,590.00 |
| Gwaith allanol |
£58,271.00 |
| Arwynebedd llawr gros |
1,717.4m2 |
| Cyfanswm arwynebedd y safle |
11.43 hectar; |
| Mathau o ystafelloedd a'u maint |
Amherthnasol |
| Arwynebedd y mannau cylchdroi |
269m2 |
| Arwynebedd y mannau storio |
320.5m2 |
| % o arwynebedd y tir a ddefnyddir gan y gymuned |
Amherthnasol |
| % o arwynebedd yr adeiladau a ddefnyddir gan y gymuned |
Amherthnasol |
| Y rhagolygon o ran defnyddio trydan: goleuadau |
8.67 kWh/m2 |
| Y rhagolygon o ran defnyddio trydan: offer |
20.96kWh/m2 |
| Y rhagolygon o ran llosgi tanwydd ffosil |
30.87 kWh/m2 |
| Y rhagolygon o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy |
2.84 kWh/m2 |
| Y rhagolygon o ran defnyddio dŵr |
2.96 m3/y person/y flwyddyn |
| % y dŵr a ddefnyddir y rhagwelir y bydd yn ddŵr glaw neu'n ddŵr llwyd |
40% |
Y camau a gymerwyd yn ystod y broses adeiladu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd
Manylwyd ar dechnegau rheoli adeiladu arloesol yng Nghynllun Rheolaeth Amgylcheddol y Prosiect a'r canlynol yw'r prif nodau ac amcanion:
§ Gwaredu llygryddion
§ Lleihau'r effaith ar blanhigion, anifeiliaid a thrigolion lleol
§ Defnyddio llai o ynni
§ Ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddefnyddiau â phosibl
§ Rhoi sylw i ystyriaethau amgylcheddol wrth ddewis defnyddiau a chydrannau
§ Hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith y staff, yr is-gontractwyr a'r cyflenwyr
§ Addasu yn sgil sylwadau a ddaeth i law yn dilyn asesiadau amgylcheddol pellach ac ymrwymiadau y cytunir arnynt mewn trafodaethau â thrigolion a/neu fudiadau lleol.
Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd.
Roedd angen creu adeilad newydd sy'n dangos fod Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Y broblem bennaf o ran yr adeiladau presennol oedd diffyg cydlyniaeth a llwybrau allanol troellog. Roedd angen ychwanegu adeiladau newydd ond cyfran fach o'r gwaith cyfan yw'r rhain gan fod gwaith dymchwel ac ailadeiladu yn fwy costus na gwaith addasu.
Darparwyd adeiladau i ddatblygu adnoddau allweddol ar gyfer Anghenion Addysg Arbennig (Adeilad 17) a datblygu'r chweched dosbarth ynghyd â darparu derbynfa / mannau gweinyddu i groesawu ymwelwyr â'r ysgol (Adeilad 1).
Ar ôl ei hailddatblygu bydd modd i'r ysgol ddarparu digon o fannau addysgu a chymdeithasu digonol eu maint sy'n llecynnau dymunol ar gyfer gweithio a dysgu. Bydd yr ysgol yn cael ei haddasu a darperir cyfleusterau ychwanegol i sicrhau'i bod yn gwbl gynhwysol ac yn helpu pob plentyn.
Yn ogystal â'r materion uchod, mae'r prosiect wedi cyflawni'r canlynol:
§ Cyflawnwyd credyd cyntaf Man6: Ymgynghori (yn unol â safonau Addysg BREEAM 2008);
§ Mae defnyddwyr yr adeilad, wedi ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys ymweliadau rheolaiddgan athrawon a disgyblion ysgol.
§ Bu defnyddwyr yr adeilad a rhanddeiliaid allweddol yng nghyfarfodydd y Tîm Dylunio.