English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/4/2012
Prydau Ysgol Am Ddim 

Mae prydau ysgol am ddim ar gael yn unig i'r plant hynny y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:-

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Cymorth o dan ran V1 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches
  • Elfen Warant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Plant, ond NID YDYNT yn derbyn dim Credyd Treth Gwaith, ac nid yw eu hincwm blynyddol (yn ôl asesiad Cyllid y Wlad) yn fwy na £16,190 (o 6fed Ebrill 2012 ymlaen)

I ble ydw i'n gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim? 

Mae'n rhaid gwneud cais i'r Awdurdod Lleol lle mae'r ysgol. Os yw'r plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yna mae'n rhaid gwneud cais i'r adran ganlynol:-

Adran Prydau Ysgol am Ddim
Yr Adran Addysg a Phlant
Adeilad 2, Parc Dewi Sant 
Heol Ffynon Job
Caerfyrddin
SA31 3HB

Sut ydwy'n gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim?

I wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gallwch:-

  • Ffonio 01267 246521/246525 a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch, NEU
  • Gallwch anfon ebost at facilitiesmanagement@carmarthenshire.gov.uk yn cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch, NEU
  • Allwch lawr-lwytho'r ffurflen drwy glicio ar y cyswllt sydd yn y blwch ar y dde:

Llenwch y ffurflen gais a'i dychwelyd gyda'r prawf perthnasol at:

Adran Prydau Ysgol am Ddim
Yr Adran Addysg a Phlant
Adeilad 2, Parc Dewi Sant 
Heol Ffynon Job
Caerfyrddin
SA31 3HB

NEU gallwch lenwi'r ffurflen a'i dychwelyd i unrhyw un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid a restrir ar y ffurflen gais.

Pa brawf fydd ei angen arnaf?

Dyma restr o'r math o brawf y bydd ei angen arnoch:

  • Llungopi o'r llythr penderfyniad gan y swyddfa budd-daliadau yn dangos bod gennych hawl i Gymorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith - yn Seiliedig ar Incwm, NEU
  • Llungopi o'ch Credyd Treth Incwm y Wlad / Credyd Pensiwn, NEU
  • Eich ffurflen gais wedi'i stampio a'i dyddio gan y swyddfa budd-dailiadau yn dangos pa fudd-dal y mae gennych hawl iddo, NEU
  • Y prawf sydd ei angen ar Geiswyr Lloches i gael prydau ysgol am ddim i'w plant  yw eu llythyr IND neu Gerdyn IND, Llythyr Gwasanaethau Cymdeithasol neu eu Llythyr NASS.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais wedi'i llenwi ynghyd â'r prawf o'ch hawl, byddwn ni'n disgwyl prosesu eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith. Yna byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod ichi beth yw'r penderfyniad.

Ni ellir caniatau i unrhyw blentyn gael prydau am ddim hyd nes y byddwn ni wedi derbyn ffurflen wedi'i llenwi'n gywir â phrawf cywir o fudd-dal. 

Beth sy'n digwydd os yw fy amgylchiadau'n newid?

Os yw'r ymgeisydd yn gorffen derbyn un o'r budd-daliadau y sonnir amdanynt uchod, mae'n rhaid iddo/iddi roi gwybod i'r swyddfa Prydau Ysgolion am Ddim ar unwaith oherwydd mae'n rhaid canslo'r hawl i brydau ysgol am ddim (Ffôn 01267 246521/246525 ). Os rhoddir gwybodaeth anwir neu os na roddir gwybod bod yr amgylchiadau wedi newid, yna gall arwain at achos cyfreithiol.

Beth sy'n rhaid i mi ei wneud er mwyn parhau â'm hawl i Brydau Ysgol am Ddim?

Mae prydau ysgol am ddim yn cael eu caniatau am gyfnod o 12 mis. Ar ôl derbyn cadarnhad eich bod yn gymwys, byddwch yn cael llythyr yn rhoi'r dyddiadau pryd bydd yr hawl i brydau ysgol am ddim yn gweithredu. Er mwyn sicrhau y bydd y caniatad i gael prydau ysgol am ddim yn parhau, rydym yn awgrymu y dylech ailymgeisio tua 4 wythnos cyn y dyddiad y daw'r cyfnod i ben. 

Eich cyfrifoldeb chi yw ailymgeisio am brydau ysgol am ddim ar neu cyn y dyddiad y maent yn ailddechrau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch Prydau Ysgol am Ddim, yna mae croeso ichi gysylltu â'n swyddfa Prydau Ysgol am Ddim ar (01267) 246526 neu gallwch anfon e-bost at

facilitiesmanagement@carmarthenshire.gov.uk.

 
Manylion Cysyllt
 

Adain Prydau Ysgol am Ddim
Yr Adran Addysg a Phlant
Adeilad 2, Parc Dewi Sant
Heol Ffynon Job
Caerfyrddin SA31 3HB

Ffôn: 01267 246521/246525
Danfonwch e-bost