Hepgor gwe-lywio | Newid maint y testun AAA |  Testun yn Unig | Cymorth | Cysylltwch â ni
Derbyniadau a Throsglwyddiadau 

Mae derbyn plant i ysgol yn cael ei reoli gan Awdurdod Derbyn. Yn achos ysgolion cymunedol (ysgolion sirol gynt) ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yr Awdurdod Derbyn yw Awdurdod Addysg Lleol Sir Gaerfyrddin.

Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, yr Awdurdod Derbyn yw Corff Llywodraethu'r ysgol unigol.

Mae gan bob ysgol ardal y mae'n ei gwasanaethu'n draddodiadol, a elwir weithiau yn ddalgylch neu ardal ddynodedig.

Disgwylir i bob ysgol dderbyn pob plentyn o fewn yr ardal draddodiadol a wasanaethir ganddi, a rhaid i ysgolion dalu sylw i'r galw parhaol yma.

Mae'r rhan fwyaf o rieni yn dewis anfon eu plant i'r ysgol leol, ond mae gan rieni hawl i ddatgan eu bod am ddewis ysgol wahanol. Mae'n rhaid i'r Awdurdod Addysg Lleol a llywodraethwyr yr ysgol dderbyn unrhyw ddewis a fynegir, cyhyd â nad yw'n effeithio ar un o'r materion canlynol:-

• Addysg effeithlon neu ddefnydd effeithlon o adnoddau;
• Cyfyngiadau ar faint dosbarthiadau yn y cyfnod babanod;
• Naws yr ysgol (fel arfer, mae hyn yn ymwneud â chrefydd).

Mae'n bosib, felly, na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle yn yr ysgol o'u dewis.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/1/2010

 
Manylion Cysyllt
 
Yr Adran Addysg a Phlant,
Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Heol Ffynonjob,
Caerfyrddin
SA31 3HB
Rhif ffôn: 01267 246500
Rhif ffacs: 01267
Cyfeiriad e-bost: AdranAGP@sirgar.gov.uk