Ein nod yw sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin yn cael y ddarpariaeth orau posibl o ran gwaith ieuenctid, a galluogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial a chyfrannu at gymdeithas ym mhob modd posibl. Er mwyn cyrraedd ein nod byddwn yn darparu gwasanaethau i bob un rhwng 11 a 25 oed, gan roi sylw penodol i'r grŵp oedran rhwng 11 ac 19 oed.
Anghenion pobl ifanc fydd yn cael blaenoriaeth yn ein gwaith, a byddwn yn eu galluogi i ddylanwadu ar y penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau sy'n effeithio ar y grŵp oedran rhwng 11 a 25 oed. Bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio gan ein rôl strategol unigryw, a byddwn yn cydweithio â chyrff eraill sy'n darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin.
Ein Diben
Mae gwaith ieuenctid yn weithgaredd addysgol sy'n fodd i hybu datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc. Er bod ein gwaith yn ategu ac yn hyrwyddo dysgu ffurfiol, mae gennym hefyd rôl hanfodol o ran y dysgu anffurfiol sy'n digwydd y tu allan i'r ysgol, i'r coleg, neu i amser hyfforddiant. Byddwn yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc:
- Yn iach
- Yn cadw’n ddiogel
- Yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn eu mwynhau
- Yn dysgu sgiliau newydd a bod modd iddynt gael yr hyn y maent yn ei gyflawni wedi ei achredu a'i gydnabod
- Yn cael cyfleoedd i gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau
- Yn gallu ailgydio mewn addysg a hyfforddiant os nad ydynt wedi ffynnu mewn ysgol ffurfiol
- Yn gysurus yn ariannol a bod eu lles cymdeithasol yn cael ei hybu
- Yn cyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt
Ein Gwerthoedd
- Bod pobl ifanc yn dewis ymuno â ni, a hynny, ymhlith pethau eraill, o achos eu bod am ymlacio, cwrdd â ffrindiau, a chael hwyl.
- Bod ein gwaith yn parchu hunaniaeth ddiwylliannol a chymunedol ehangach pobl ifanc, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i hynny.
- Bod ein gwaith yn canolbwyntio ar bobl ifanc fel unigolion, gan weld gwerth ynddynt fel ag y maent ar hyn o bryd, ac nid ond am yr hyn y gallent fod yn y dyfodol.
- Bod ein gwaith yn rhoi sylw i sut y mae pobl ifanc yn teimlo, yn ogystal â'u gwybodaeth, eu sgiliau, eu hagweddau, eu gwerthoedd, a'u daliadau.
- Bod ein gwaith yn rhoi grym i bobl ifanc allu wneud dewisiadau cytbwys am yr hyn sy'n cael effaith ar eu bywydau.
- Bod ein gwaith yn cael ei seilio ar berthynas gadarn lle mae'r ddwy ochr yn parchu ei gilydd.
- Bod cyfleoedd cyfartal wrth wraidd gwaith ieuenctid.
- Bod gan bobl ifanc hawliau a chyfrifoldebau.
- Bod ein gwaith yn gynhwysol.
- Bod cynaliadwyedd cymunedau a rhinweddau unigol pobl ifanc yn cael eu hyrwyddo drwy ein gwaith.
- Bod dinasyddiaeth fyd-eang a lleol yn cael eu hyrwyddo yn ein gwaith.
- Bod gan bobl ifanc lawer i'w 'ddysgu' i oedolion.
- Bod ein gweithwyr ieuenctid yn ymdrechu'n gyson i ddiweddaru a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau, a'u gallu i wneud y gwaith.
- Yn gysurus yn ariannol a bod eu lles cymdeithasol yn cael ei hybu
- Yn cyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt