Nod Gwasanaeth Seicoleg Addysg Sir Gaerfyrddin yw defnyddio'r seicoleg ynghylch sut mae pobl yn dysgu, yn ymddwyn, yn meddwl ac yn teimlo i hwyluso newid cadarnhaol a fydd yn cynorthwyo ein holl blant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial. Rydym yn cyfrannu'n helaeth hefyd i weithgareddau datblygu systemau a pholisi yn yr Awdurdod.
Rydym yn gweithio â phlant a phobl ifanc ac ar eu rhan i ddatrys problemau sy'n achosi pryder sylweddol i'r rheiny sy'n cefnogi eu datblygiad. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn ysgolion yn bennaf, ond mae'n digwydd hefyd mewn lleoliadau cyn-ysgol, yn y cartref, yng nghartref rhieni maeth ac mewn lleoliadau gofal seibiant. Yn aml, mae'r pryderon ynghylch ymddygiad, dysgu, ymwneud cymdeithasol a lles emosiynol.
Ymgynghori y galwn y broses hon ac rydym yn cyfrannu ynddi gan wybod y byddai'r bobl sy'n gweithio gyda'r plentyn/person ifanc/grŵp/corff yn elwa o gael golwg ar y sefyllfa o safbwynt seicolegol. Ynghyd â'r gyd-ddealltwriaeth hon, mae'n bosibl cydweithio a chynllunio camau gweithredu a ddylai ddod o hyd i ateb, ac adolygu'r cynnydd i sicrhau bod y cynllun yn gweithio.
Yn ogystal, rydym yn chwarae rhan yn y broses amlasiantaeth o nodi anghenion addysgol arbennig sylweddol a chynnig argymhellion arbenigol ynghylch y ffordd orau i'w diwallu.
Bob blwyddyn rydym yn neilltuo sesiynau ymlaen llaw ar gyfer gwahanol leoliadau ac yn cynllunio sut y gellir defnyddio'r amser sydd ar gael i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Os ydynt yn dymuno i Seicolegydd Addysg fod yn rhan o'r gwaith a wneir gyda phlentyn/person ifanc, bydd y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r unigolyn dan sylw yn gofyn caniatâd y rhieni ac yn rhoi cyfle iddynt gyfrannu i'r gwaith. Os oes gan rieni bryder ynghylch eu plentyn dylent drafod hyn â'r ysgol neu'r lleoliad.
Rydym wedi cynhyrchu Llawlyfr i Rieni, Ysgolion a Gweithwyr Proffesiynol eraill sydd â diddordeb yn y modd yr ydym yn gweithio.