
‘ADDYSG DRWY GYFRANOGIAD’
Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, yng Ngorllewin Cymru yn cael ei rhedeg gan Adran Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'n ganolfan breswyl sydd â lle ar gyfer hyd at 140 o gleientiaid. Bu'r ganolfan yn gweithredu ar ei ffurf bresennol am 40 mlynedd a rhagor er bod safon y llety wedi gwella'n aruthrol yn ystod y cyfnod hwnnw!
Lleolir y Ganolfan mewn llecyn delfrydol 300 metr yn unig o draeth enwog Pentywyn, ar gyrion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn y gorffennol, bu Canolfan Pentywyn yn darparu gwasanaeth ar gyfer ysgolion lleol ond y dyddiau hyn mae'n derbyn plant ysgol o Reading a Canterbury yn ogystal â chybiau, sgowtiaid, mudiadau crefyddol, teithiau chwaraeon a grwpiau corfforaethol. Rydym hefyd yn trefnu ac yn cynnal allteithiau gan gynnwys rhai Gwobr Dug Caeredin, penwythnosau sgiliau byw yn y gwyllt, teithiau i ben yr Wyddfa a gwibdeithiau i Ardal y Llynnoedd.
Mae'r rhestr isod yn dangos y math o weithgareddau a gynigir yng Nghanolfan Pentywyn:
• Dringo (creigiau’r arfordir, tŵr y safle a wal clogfeini dan do)
• Abseilio (creigiau’r arfordir a thŵr y safle)
• Saethyddiaeth
• Cwrs rhaffau uchel ac isel
• Canŵio dull Canada (afonydd a dŵr mewndirol )
• Sgïo ewyn ton
• Syrffio ar eich gorwedd
• Caiacio
• Crwydro Ceunentydd,
• Cyfeiriadu (ar gyfer lefelau gallu amrywiol)
• Cerdded bryniau a llwybr yr arfordir
• Sgiliau byw yn y gwyllt
• Astudiaethau amgylcheddol
• Meithrin tîm
• Astudiaethau/pynciau trawsgwricwlaidd sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac wedi'u teilwra at eich anghenion
Ymholiadau: GJWilliams@sirgar.gov.uk