Darganfyddwch hanes diddorol Llanelli a gweld pethau rhyfeddol o’i gorffennol yn Amgueddfa Parc Howard.

Wedi’i gosod mewn parcdir wedi’i dirlunio, mae’r amgueddfa yn cynnig pethau cyfareddol i’w gweld, fel yr olwyn car sbâr gyntaf, casgliad enwog Crochenwaith Llanelli ac ystod o baentiadau yn dangos yr ardal dros y blynyddoedd.
Gall ymwelwyr fynd am dro o amgylch y parc hyfryd, gall teuluoedd fwynhau’r maes chwarae a’r cyfleusterau hamdden o amgylch yr amgueddfa hanesyddol, cael picnic neu fwydo’r hwyaid mewn amgylchedd braf.
Mae cyfleusterau’r amgueddfa yn cynnwys:
• Toiledau
• Dolen sain
• Caniateir cŵn tywys
• Siop
• Wedi’i gosod mewn parc cyhoeddus
• Maes chwarae gerllaw
Parc Howard, Llanelli Digwyddiad ymgynghori ‘galw heibio’
Dewch i wybod rhagor a rhannu’ch safbwyntiau
Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Howard
Heol Felinfoel, Llanelli, SA15 3LJ
Dydd Sadwrn 19eg Ionawr 2013
10:00am tan 16:00pm
Yn agored 2013:
Ionawr - Mawrth
Dydd Mawrth – Dydd Gwener
11am – 1pm a 2pm – 4pm
Dydd Sadwrn
2pm – 4pm
Ebrill - Medi
Dydd Mawrth – Dydd Gwener
10am – 1pm a 2pm – 5pm
Dydd Sadwrn
1pm – 5pm
Hydref – Rhagfyr
Dydd Mawrth – Dydd Gwener
11am – 1pm a 2pm – 4pm
Dydd Sadwrn
2pm – 4pm