Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Digital Services; : Llif Newyddion;>  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Hysbyseb i Brif Athrawon  

ODDI WRTH:  Y CYFARWYDDWR ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT

I:           HOLL BENAETHIAID YR AALL

Gyfeillion,

Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, er ymdrechion gorau penaethiaid, fod nifer helaeth o’n hysgolion wedi eu cau oherwydd y tywydd anffafriol. Er hynny, rwy’n siŵr eich bod hefyd yn ymwybodol o’r pryderon a’r trafferthion, ar draws y Sir, a achosi’r gan ysgolion yn gorfod cau.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw cymaint ag sy’n bosibl o’n hysgolion ar agor, rydw i wedi trafod gyda chydweithwyr yn Adran Gwasanaethau Technegol y Cyngor. Y bwriad yw graeanu, lle mae’n ymarferol, prif fynedfeydd i adeiladau ysgolion. Os bydd gwasanaeth o’r fath yn hwyluso ail-agor eich ysgol, a wnewch chi gysylltu gyda-

Mr Aled Evans
Rhif ffôn: 01267 225102
E-bost:  HAEvans@carmarthenshire.gov.uk  

Rwy’n deall na fydd hyn yn datrys anawsterau eraill megis trafnidiaeth ysgol a materion perthansol ond fe ddylai caniatáu i ni hwyluso cadw mwyafrif o’n hadeiladau ar agor.

Yn ddiffuant,

Vernon Morgan

Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/1/2010