Hepgor gwe-lywio |  Newid maint y testun  A A A |  Testun yn Unig  | Cymorth  | Cysylltwch â ni
Polisi Preifatrwydd 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod eich bod yn ymddiried ynddom i weithredu’n gyfrifol pan fyddwch yn dewis darparu gwybodaeth i ni.

Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n defnyddio’r wefan hon, ac eithrio pan fyddwch yn darparu manylion personol i ni amdanoch yn wirfoddol drwy e-bost, gan ddefnyddio ffurflen electronig neu wrth holi ynghylch ein gwasanaethau.

Ni fyddwn yn darparu gwybodaeth bersonol amdanoch a geir drwy’r we i unrhyw gwmnïau neu sefydliadau allanol oni bai ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny neu oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

Os ydych wedi darparu gwybodaeth sensitif fel rhif cerdyn credyd ar gyfer taliadau byddwn yn amgodio’r rhif i’w diogelu. Ni ddefnyddir rhifau cardiau credyd ond at ddiben prosesu taliadau. Nid ydynt yn cael eu cadw at unrhyw ddiben arall.

Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin. Nid yw’r polisi hwn yn berthnasol i gysylltiadau o fewn y wefan hon i wefannau eraill.  


Tudalen wedi ei diweddaru ar 17/10/2008