Mae’r gwasanaeth rhyngweithiol hwn yn darparu mynediad i mapiau Arolwg Ordnans (AO) a amrediad o wybodaeth y Cyngor trwy defnydio’r meddalwedd Planaccess.
Cliciwch yma i ddefnyddio system mapiau rhyngweithiol sef PlanAccess.
Trwy wneud hyn, rydych yn cytuno â’n hamodau a thelerau.
Beth yw PlanAccess?
Gellir ei ystyried fel fersiwn cyfrifiadurol o fap ond ceir un gwahaniaeth pwysig sef y ffaith ei fod yn fap rhyngweithiol, gan alluogi defnyddwyr i symud o gwmpas y map gan edrych ar haenau penodol o wybodaeth a gyflwynir ar ffurf map.
Mae PlanAccess yn eich galluogi i weld mapiau’r Arolwg Ordnans a haenau o ddata ar ffurf mapiau a ddarperir gan nifer o adrannau Cyngor Sir Gâr.
Mapiau a gwybodaeth sydd ar gael trwy raglen PlanAccess
Gelwir y casgliadau o haenau data ar ffurf mapiau yn “Themâu” yng ngwasanaeth PlanAccess.
Mae’r themâu canlynol ar gael ar hyn o bryd:
- Ysgolion Gynradd a Uwchgradd
- Ardaloedd Cadwraeth
- Amgueddfeydd A Orielau
- Gorsafoedd Tan a Heddlu
- Canolfannau Hamdden a Pyllau Nofio
Lleoliadau Mannau o Ddiddordeb: dewiswch o'r rhestr a gyflwynir i weld y lleoliad hwnnw
Sut mae defnyddio’r Planaccess?
Gallwch ddefnyddio tab y cyfleuster “Chwilio Cyfeiriad” i nodi cyfeiriad a/neu god post er mwyn dod o hyd i leoliad ar fap. Ni ddylech adael bwlch mewn cod post wrth ddefnyddio’r gwasanaeth Chwilio cyfeiriad e.e. nodwch SA311JP nid SA31 1JP.
Cliciwch ar y botymau closio, pellhau neu panio ac yna ar y map ei hun i symud o gwmpas y map. Yn ogystal, darperir y cyfle i ddewis a chlosio at safle penodol ar y map o fap cyffredinol o’r sir gyfan gan y tab “Map Cyffredinol”.
Cliciwch ar y botwm gwybodaeth (“i”) ac yna cliciwch ar wrthrych a ddangosir mewn unrhyw thema ar fap. Dangosir unrhyw wybodaeth am y gwrthrych ar y map.
Trwy ddefnyddio’r botwm “Chwilio am yr Agosaf” ac yna clicio ar y map ar unrhyw leoliad, gallwch chwilio am gyfleuster penodol un o wasanaethau’r cyngor o’r rhestr a gyflwynir. Er enghraifft, gallwch ddod o hyd i’r ysgolion neu’r llyfrgelloedd wedyn trwy ddewis o’r rhestr a dewis y pellter chwilio. Os byddwch yn clicio ar unrhyw eitem yn y rhestr o’r eitemau a ddarganfuwyd, bydd y map yn symud i’r lleoliad hwnnw. Cofiwch fod y pellter wedi’i fesur mewn cilomedrau ac mae’r canlyniadau a ddangosir “fel yr hed y frân” h.y. pellter radial ac nid ar y ffyrdd.
Pan fo modd, cyflwynir data cyhoeddus ar ffurf map trwy gyfrwng PlanAccess yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gellir cael help pellach ynghylch sut i ddefnyddio’r swyddogaethau ar y mapiau yma neu’n uniongyrchol yn y tudalennau help yn PlanAccess .