Yn ogystal â darparu gwybodaeth leol ddefnyddiol, mae gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu nifer o wasanaethau ar-lein sydd yn eich galluogi chi i ddelio â'r Cyngor yn gyflym ac yn effeithiol drwy'r wefan hon.
Mae amrywiaeth o wasanaethau ar-lein ar gael, gan gynnwys ffurflenni ar-lein sydd yn eich helpu i roi gwybod i ni am broblemau, cyfleusterau talu ar-lein er mwyn gallu talu treth y cyngor ar-lein, a mapiau ar-lein er mwyn gallu dod o hyd i feysydd parcio, toiledau cyhoeddus, neu'r cyfleusterau ailgylchu agosaf.