Cyfleoedd Dysgu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cyfleoedd Dysgu 

 

Datblygiadau yn y dyfodol yn Sir Gaerfyrddin
Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnal anghenion dysgu a datblygu y sector gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn Sir Gaerfyrddin yn neilltuol o ran hwyluso mynediad i’n hyfforddiant a’n dulliau o gyfathrebu gyda gweithlu gofal cymdeithasol sydd mor helaeth. Mae rhai o’n prosiectau presennol yn ymwneud â:


Cardiau Adnabod i Gynrychiolwyr
Un maes sy’n cael sylw ar hyn o bryd yw darparu cerdyn hyfforddiant unigryw i bob cynrychiolydd sydd wedi mynychu ein gweithgareddau hyfforddiant. Bydd y cerdyn hwn yn cynnwys rhif y cynrychiolydd sy’n cael ei greu gan ein system hyfforddiant.  Mae rhif y cynrychiolydd yn unigryw i’r unigolyn hwnnw.  Bob tro y bydd cynrychiolydd yn mynychu digwyddiad hyfforddiant, bydd y manylion yn cael eu cofnodi ar y system hyfforddiant. Drwy ddynodi  rhif unigryw bydd modd cofnodi gwybodaeth ar broffiliau hyfforddiant unigolion ar ein system. Bydd y rhif yn ein helpu i greu proffiliau hyfforddiant unigol.  Gall cynrychiolwyr (neu eu rheolwyr) wneud cais am gopi o’r cofnodion hyfforddiant unigol, a gellir eu hanfon atynt naill ai’n electronig (PDF) (y dewis ddull) neu fel copi papur drwy’r post. 

Mae llawer o fanteision i gael rhifau unigol: 
O ran unigolion mae’r proffiliau hyfforddiant yn:
• cynnal eich portffolio o dystiolaeth NVQ,
• galluogi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru
• bodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal
• helpu i ddangos eich datblygiad proffesiynol
O ran rheolwyr mae’r proffiliau hyfforddiant:
• yn aml yn rhan bwysig o broses archwilio a chofrestru, e.e. gallu dangos faint o’ch staff sydd wedi derbyn hyfforddiant amddiffyn oedolion,
• yn eich helpu i ddangos bod eich gwasanaeth yn bodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal,
• yn eich helpu i fonitro anghenion hyfforddiant eich staff, e.e. beth sydd angen ei ddiweddaru
Gan ein bod yn creu rhif unigol ar gyfer pob cynrychiolydd gellir trosglwyddo eu cerdyn adnabod rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol, e.e. os ydych yn newid swydd bydd eich rhif adnabod a’ch cofnodion hyfforddiant yn mynd gyda chi. 

Cyrsiau – prosesu
Rydym yn bwriadu diweddaru ein dulliau o anfon gwybodaeth am hyfforddiant atoch.  Drwy ein hysbysu am unrhyw newidiadau i’ch manylion e-bost, gallwn anfon pob llythyr yn y dyfodol atoch ar e-bost.  Ar hyn o bryd mae pob llythyr a anfonwn atoch yn cael ei bostio wedi’i gyfeirio at y cynrychiolwr unigol. Dymunwn wella’r dull hwn (ac arbed papur), a’n bwriad yw anfon pob gwybodaeth am gyrsiau yn uniongyrchol i’ch sefydliad (ar e-bost) gan gynnwys manylion unigol y rheiny sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer hyfforddiant ar yr e-bost.  A fyddech cystal â rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch manylion e-bost.
 

 


 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 19/3/2010
 
Manylion Cysyllt
 

Uned Hyfforddi
Swyddfa’r Cyfarwyddwr
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE

Ffon: 01267 224826
Fax: 01267 223074