
Mae Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin yn gweithredu'n unol â'r egwyddor "Un Sector, Un Gweithlu’. Nid yw’n fater hollbwysig i ddefnyddwyr y gwasanaethau na’r gofalwyr pa un o’r sectorau gwahanol sy’n darparu’r gwasanaethau; yn hytrach, yr hyn sydd yn hollbwysig iddynt yw gwerthoedd, sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd y bobl sy'n datblygu ac yn darparu'r gwasanaethau.
Yn y Canllawiau Statudol ar Swyddogaeth ac Atebolrwydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, amlinellir yr atebolrwydd o ran cynllunio'r gweithlu, datblygiad proffesiynol a gweithio mewn partneriaeth yn yr Awdurdod Lleol a'r tu allan iddo. Mae'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn rhoi arweiniad er mwyn sicrhau bod cynllun gweithlu sector cymdeithasol hollgynhwysol ar gael, ac ar waith, sy'n nodi ac yn sicrhau y gweithredir mesurau i ofalu bod gweithlu digon o faint, medrus, diogel a chlir ei nod ar gael i ddiwallu'r anghenion a aseswyd.
Dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Partneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn cynllunio, yn gweithredu ac yn monitro effeithiolrwydd y cyfleoedd dysgu a datblygu a gyllidir dan grant Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i'r gwasanaethau a reola ac i ddarparwyr yn y sector annibynnol a gwirfoddol ar draws ystod y ddarpariaeth ac ar y cyd ag ystod o bartneriaid gan gynnwys partneriaid Iechyd a'r Heddlu. Mae gofynion y rheoliadau, y Fframwaith Cymwysterau a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn parhau i ddarparu gofynion sylfaenol y Bartneriaeth wrth gynllunio hyfforddiant achrededig neu ffurfiol.
Cynllun Cyfathrebu.pdf