Nod y Cynllun Bathodyn Glas (Parcio i'r Anabl) yw helpu pobl anabl neu ddall i deithio'n annibynnol naill ai fel gyrrwr neu deithiwr a'u galluogi i barcio'n agos i'r lle mae angen iddynt fynd.
Mae'r Cynllun Bathodyn Glas yn caniatáu i gerbyd y mae deiliad y bathodyn glas yn teithio ynddo gael ei barcio mewn mannau penodedig. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Direct.gov.uk neu ffoniwch 0844 463215.
Rydych yn gymwys i gael bathodyn glas heb fod yn destun asesiadau pellach os ydych:
• Yn derbyn Cyfradd Uwch yr Elfen Symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl (HRMCDLA)
• Wedi eich cofrestru'n ddall
• Yn cael Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
• Wedi cael budd-dal ar ffurf cyfandaliad o fewn tariffau 1-8 o Gynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd wrth Gefn ac os yw wedi ei gadarnhau bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na allwch gerdded neu eich bod yn ei chael yn anodd iawn cerdded.
Rydych yn gymwys i gael bathodyn glas yn amodol ar asesiadau pellach os ydych:
• Yn hŷn na dwy flwydd oed ac yn methu cerdded neu'n ei chael yn anodd iawn cerdded o achos anabledd parhaol a sylweddol.
• Yn gyrru car yn rheolaidd ac os oes gennych anabledd difrifol yn y ddwy fraich ac yn methu defnyddio mesuryddion parcio, neu'n ei chael yn anodd eu defnyddio.
• Dan dair blwydd oed ac os oes gennych gyflwr lle mae'n ofynnol naill ai cadw offer meddygol swmpus gyda chi drwy'r amser neu sicrhau eich bod yn ymyl cerbyd modur rhag ofn y bydd angen triniaeth feddygol frys arnoch.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ceisiadau am Fathodyn Glas, cysylltwch â:
Yr Uned Bathodynnau Glas
Yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai
Cyngor Sir Caerfyrddin
Rhadbost RRUS-LLCT-UTUU
Caerfyrddin
SA31 1LE
Rhif ffôn: 01267 228813
E-bost: schbluebadges@sirgar.gov.uk
Pethau y mae angen ichi wybod amdanynt cyn gwneud cais am fathodyn glas
Cyflwyno cais am Fathodyn Glas
Cyfarwyddiadau i Ddeiliaid Bathodyn Glas
Newidiadau i'r Cynllun Bathodyn Glas