English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Deddf Gallu Meddyliol (2005) 

Cyflwyniad

Cyfraith newydd yw'r Ddeddf Gallu Meddyliol sy'n effeithio ar bobl 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru a Lloegr - bydd yn effeithio ar bob un ohonom. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno mesurau diogelu i rymuso ac amddiffyn pobl y bernir nad ydynt yn alluog yn feddyliol.

Mae'r Ddeddf yn egluro bod rhaid i unrhyw asesiad o allu person ymwneud â 'phenderfyniad penodol’. Ystyr hynny yw:

  • Bod rhaid i'r asesiad o allu ymwneud â'r penderfyniad penodol y mae'n rhaid ei wneud ar adeg benodol, yn hytrach nag ystod o benderfyniadau.
  • Os na all rhywun wneud penderfyniadau cymhleth, nid yw hynny'n golygu na all ef/hi wneud penderfyniadau syml.
  • Ni allwch benderfynu bod rhywun yn analluog ar sail oedran, golwg, cyflwr nac ymddygiad.
  • Bydd pobl analluog yn cynnwys rhai sy'n dioddef o dementia, sydd ag anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, niwed i'r ymennydd, cyflwr dryswch tocsig ac anafiadau corfforol neu salwch. Gall yr anallu meddyliol fod yn rhywbeth parhaol neu dros dro.

Cefndir

  • Mae Deddf Gallu Meddyliol 2005 yn deillio o sawl blwyddyn o waith yn edrych ar y gyfraith a'r arweiniad oedd ar gael.
  • Mae wedi rhoi eglurhad ar nifer o bwyntiau a oedd yn ansicr yn gyfreithiol trwy ddiwygio a diweddaru'r gyfraith bresennol lle mae angen gwneud penderfyniadau ar ran eraill.
  • Mae'r Ddeddf yn dweud wrth bobl beth i'w wneud i helpu rhywun i wneud penderfyniad drostynt eu hunain; sut mae gwybod a all rhywun wneud penderfyniad drostynt eu hunain a beth i'w wneud os na allant.
  • Mae'n cwmpasu ystod eang o benderfyniadau ynghylch lles personol (yn cynnwys iechyd) yn ogystal â materion ariannol.

 
Egwyddorion Allweddol

Mae pum peth pwysig i’w hystyried:

  1. Dechreuwch trwy feddwl bod pawb yn medru gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain.
  2. Rhowch y gefnogaeth angenrheidiol i berson wneud penderfyniadau cyn dod i'r casgliad na all wneud penderfyniadau drosto/drosti ei hun.
  3. Ni ddylid atal neb rhag gwneud penderfyniad dim ond oherwydd bod eraill o'r farn bod hynny'n annoeth neu'n egsentrig.
  4. Rhaid i unrhyw beth a wneir dros rywun analluog neu ar ei r(h)an fod er ei "(l)les pennaf" - penderfyniad a wneir trwy ddefnyddio rhestr wirio.
  5. Pan wneir neu pan benderfynir unrhyw beth ar ran person analluog, rhaid cyfyngu cyn lleied â phosib ar hawliau a rhyddid sylfaenol y person hwnnw.

Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?

  • Mae'n ceisio rhoi eglurhad ar nifer o bwyntiau a oedd yn ansicr yn gyfreithiol.
  • Mae'n diwygio ac yn diweddaru'r gyfraith bresennol lle bo angen gwneud penderfyniadau ar ran eraill, gan wneud arfer da yn rhan o'r statud a chyflwyno proses.
  • Mae'n cyflwyno un prawf ar gyfer asesu gallu sy'n 'brawf penderfyniad penodol' (gan gynnwys penderfyniadau brys; penderfyniadau o ddydd i ddydd a phenderfyniadau arwyddocaol, nad ydynt yn rhai brys - gan gynnwys lle ceir cyfres o fân benderfyniadau sy'n arwyddocaol o'u cyfuno).
  • Mae'n cynnwys ystod eang o benderfyniadau, ar les personol (gan gynnwys gofal iechyd) yn ogystal â materion ariannol a dirprwyo penderfyniadau i dwrneiod neu 'ddirprwyon' a benodir gan y llys. Mae hefyd yn rhoi eglurhad ar y sefyllfa lle na fabwysiadwyd proses ffurfiol o’r fath.
  • Mae'n cynnwys rheolau newydd ar gyfer ymchwil sy'n cynnwys pobl analluog ac yn darparu ar gyfer eiriolwyr gallu meddyliol newydd annibynnol i gynrychioli’r bobl hynny a'u cefnogi yng nghyswllt rhai penderfyniadau.
  • Mae'n caniatáu, lle bo angen ac ar y lefel briodol, troi at lys sydd â'r pŵer i ddelio â phob penderfyniad lles personol (yn cynnwys gofal iechyd) a phenderfyniad ariannol ar ran oedolion sy'n analluog.
  • Mae'n disodli'r Llys Gwarchod presennol â Llys Gwarchod newydd, y mae ei bwerau'n fwy cynhwysfawr.

 

Beth yw arwyddocâd y ddeddf?

  • Mae’n rhoi côd ymarfer yn ei le a fydd yn rhoi arweiniad ar y ddeddfwriaeth. Rhaid i weithwyr proffesiynol (e.e. meddygon a gweithwyr cymdeithasol) ddilyn y côd hwn.
  • Mae'r Ddeddf yn cynnig amddiffyniad priodol ar gyfer gofalwyr (yn aelodau o'r teulu ac yn ofalwyr di-dâl), yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, lle byddant yn gweithredu gan gredu'n rhesymol bod hynny er 'lles pennaf' y person dan sylw, pan ddilynir egwyddorion y Ddeddf.

 
Gweler y rhestr termau am eglurhad pellach

  • Mae'n cyflwyno trosedd newydd*, sef trin yn wael neu esgeuluso'n fwriadol.
  • Mae'n cyflwyno rheolau ar gyfer ymchwil sy'n ymwneud â phobl analluog
  • Mae'n caniatáu ar gyfer penderfyniadau ymlaen llaw* i wrthod triniaeth
  • Mae'n sefydlu rôl Gwasanaeth Eiriolaeth Gallu Meddyliol*Annibynnol ar gyfer y bobl hynny sydd heb allu meddyliol ac nad oes ganddynt gyfaill, perthynas neu ofalwr di-dâl i wneud penderfyniad er eu 'lles pennaf'

Mae'r Ddeddf newydd wedi sefydlu'r canlynol  :

  • Atwrneiaeth Barhaol a Dirprwy
  • Llys Gwarchod
  • Swyddfa'r Gwarchodwr Cyhoeddus

Rhestr Termau

Penderfyniadau ymlaen llaw - mae'r Ddeddf yn cyflwyno darpariaethau i alluogi oedolion 18 oed a throsodd (sydd yn alluog i wneud hynny) i benderfynu gwrthod triniaeth feddygol ymlaen llaw. Mae hefyd yn cynnwys mesurau diogelu a gweithdrefnau ynghylch penderfyniadau ymlaen llaw i ddiogelu hawliau a buddiannau pobl sy'n analluog - er bod hynny'n cynnwys parchu unrhyw benderfyniadau blaenorol perthnasol a wnaed ymlaen llaw.

Lles Pennaf  - un o egwyddorion allweddol y ddeddf yw bod rhaid i bob cam a gymerir a phenderfyniad a wneir dros rywun sy'n analluog fod er lles pennaf y person dan sylw. Mae penderfynu beth fyddai er lles pennaf rhywun yn galw am ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol. Rhaid peidio â seilio penderfyniad ar unrhyw ragdybiaethau rhagfarnllyd neu na ellir eu cyfiawnhau.

Côd Ymarfer – mae'n rhoi arweiniad i bawb sy'n gweithio gydag oedolion sy'n analluog yn feddyliol neu'n gofalu amdanynt, gan gynnwys aelodau o'r teulu, gweithwyr proffesiynol a gofalwyr. Mae'n disgrifio'r cyfrifoldebau wrth weithredu neu wneud penderfyniadau ar ran unigolion nad ydynt yn alluog i wneud y pethau hynny drostynt eu hunain. Mae'n canolbwyntio ar y rhai sydd â dyletswydd gofal tuag at berson analluog ac yn egluro sut bydd y rheolau cyfreithiol a gyflwynir yn y ddeddfwriaeth yn gweithio'n ymarferol. Mae'r côd hefyd yn darparu gwybodaeth am sut gellir cael arweiniad mwy manwl o ffynonellau eraill, lle bo hynny'n arbennig o berthnasol.  Mae dyletswydd ar rai categorïau o bobl (megis meddygon a gweithwyr cymdeithasol) i gadw'r côd mewn cof wrth weithredu ynghylch person analluog. Disgwylir i bobl eraill hefyd, er nad yw'r ddyletswydd gyfreithiol hon arnynt, ddilyn arweiniad y Côd.

Llys Gwarchod – llys uwch newydd, a adwaenir fel Llys Gwarchod, fydd â'r awdurdod i wneud gorchmynion a datganiadau ac i benodi dirprwy wneuthurwyr penderfyniadau (dirprwyon) lle bo person yn analluog yn feddyliol.

Trosedd  - mae'r Ddeddf yn cyflwyno trosedd newydd, sef trin person sy'n analluog yn feddyliol yn wael neu ei esgeuluso. Gellir carcharu'r sawl a geir yn euog o drosedd o'r fath am hyd at bum mlynedd.

Gwasanaeth Eiriolaeth Gallu Meddyliol Annibynnol – bydd hwn yn helpu rhai pobl sy'n analluog yn feddyliol i wneud penderfyniadau anodd megis dewis triniaeth feddygol neu newid preswylfa. Fe'i hanelir yn benodol at y bobl hynny nad oes ganddynt berthnasau neu ffrindiau i siarad ar eu rhan. Yn arbennig, bydd pobl agored i niwed sy'n analluog i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain yn cael eu cefnogi a'u cynrychioli gan Eiriolwr Gallu Meddyliol Annibynnol

Atwrneiaeth Barhaol – ym mis Hydref 07 bydd Atwrneiaeth Barhaol yn disodli atwrneiaeth barhaus fel prif fodd i ddewis gwneuthurwr penderfyniadau i weithredu lle collir gallu meddyliol. Yn ogystal ag eiddo a materion (y mae gan Atwrneiaeth Barhaol bwerau i ymdrin â hwy), bydd pobl yn medru penodi atwrnai i wneud penderfyniadau ynghylch eu lles personol, gan gynnwys gofal iechyd, ar adeg pan allent fod yn analluog i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 02/10/2008

 
Manylion Cysyllt
 

Gwasanaethau i bobl ag anghenion iechyd meddwl:

Tîm Caerfyrddin,
Canolfan Adnoddau Parcyffynnon
22 Parcyffynnon
Caerfyrddin

Rhif ffôn: 01267 236017

Tîm Dinefwr
Sŵn y Gwynt
Lôn Tir-y-dail
Rhydaman
Rhif ffôn: 01269 595473

Tîm Llanelli
Clinig Brynmair
13 Heol Goring
Llanelli

Rhif ffôn: 01554 772768

Tîm Llangadog
Yr Hen Laethdy
Heol yr Orsaf
Llangadog

Rhif ffôn: 01550 777771

Gwasanaethau i bobl hŷn ac oedolion ag anableddau corfforol:

Tîm Caerfyrddin
Maes Cambria
Caerfyrddin

Rhif ffôn:  01267 224421

Tîm Dinefwr
Swyddfeydd y Cyngor
Heol Cligant
Llandeilo    

Rhif ffôn: 01558 825371

Tîm Llanelli
3 Rhodfa’r Goron
Llanelli

Rhif ffôn: 01554 779621

Tîm Ysbyty Caerfyrddin
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru
Glangwili
Caerfyrddin  

Rhif ffôn: 01267 227562

Tîm Ysbyty Llanelli
Ysbyty Tywysog Phillip
Bryngwyn Mawr
Dafen
Llanelli

Rhif ffôn: 01554 756567

Gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu:

Tîm TCAD Caerfyrddin
1 Pen-lan
Heol Pen-lan
Caerfyrddin   

Rhif ffôn: 01267 236899

Tîm TCAD Llanelli
12 Bay View
Heol y Capel
Llanelli    

Rhif ffôn: 01554 775916