2Activ8
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
2Activ8 

Mae 2Activ8 yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin ac elusen Gateway Iau Rhydaman ac mae’n gweithio o Ganolfan Ffordd Amgen o Fyw 2Activ8 yn Stryd y Gwynt, Rhydaman.

Bydd cyfranogwyr yn gallu cael profiad gwirfoddol mewn amgylchedd adwerthu, trwy weithio’n gynorthwywyr gwerthu yn y siop gardiau ac anrhegion. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i bobl ag anableddau dysgu yn yr ardal, gan weithio mewn cwmni cymdeithasol.

Mae’r nwyddau hefyd yn cael eu cynhyrchu yn Unedau S.T.E.P. (Rhaglenni Hyfforddiant a Chyflogaeth â Chymorth) yng Nghaerfyrddin, Cross Hands a Llanelli. Mae’r crefftau a’r cardiau a gynhyrchir gan bobl ag anableddau dysgu yn Unedau STEP wedyn yn cael eu gwerthu yn siop anrhegion 2Activ8.
Mae Canolfan Ffordd Amgen o Fyw 2Activ8 yn cynnig canolfan gynnes, eclectig, gosmopolitan ac unigryw, sy’n cynnwys caffe ar ffurf lolfa, siop anrhegion a byd cyfan o brofiadau amgen i unrhyw un sy’n cerdded trwy’r drws.

Mae 2Activ8, sy’n cefnogi a gwerthu nwyddau Masnach Deg, hefyd wedi cofrestru’n gwmni cymdeithasol yn ddiweddar, o dan yr enw ‘Get Stuffed’. Bydd prosiect ‘Get Stuffed’ yn darparu cyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu trwy wneud gwaith pecynnu, argraffu taflenni, llyfrynnau a dosbarthu taflenni marchnata.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 25/11/2009

 
Manylion Cysyllt
 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am wasanaethau i bobl ag anableddau dysgu, cysylltwch â’r Cyngor Sir ar 01267 236899 neu 01554 775916.

Oriau agor Trinkets & Treasures:- Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am – 5.00pm

Ffôn: 01269 591394

Trinkets & Treasures
23a Stryd y Gwynt
Rhydaman
SA18 3DN