Rheoli Adeiladu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 05/7/2012
Rheoli Adeiladu 

Chartered Building Consultancy   Mae Gwasanaeth Rheoli Adeiladu Sir Gaerfyrddin yn Ymgynghoriaeth Rheoli Adeiladu Siartredig CIOB.

}   Gweld y newyddion diweddaraf ynghylch Rheoli Adeiladu
}   Gweld ein rhestr Partneriaid
}  




l Gwybodaeth ynghylch Rheoli Adeiladu

Yma cewch wybodaeth ynghylch:
hanes byr Rheoli Adeiladu, pwy ydym ni, beth rydym ni'n ei wneud a'n hamcanion, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol ynghylch dewis adeiladwr, cwestiynau cyffredin ac a oes angen rheoliadau adeiladu arnoch chi.

l Ceisiadau ar gyfer Rheoliadau Adeiladu 
Mae'r tudalennau yn yr adran hon yn egluro'r broses gwneud cais. Hefyd gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a gweld beth yw'r ffioedd.

l Datblygu Busnes

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am ein Cynllun Awdurdod Partner, Cynghreiriau Partneriaeth, Gwobrau Adeiladu, adeiladwyr sy'n enillwyr Gwobrau, Gwarant Cartref Newydd LABC a Latent Gold LABC.

l Domestig
Rydym yn cynnig cyngor ar lawer o agweddau ar waith adeiladu domestig gan gynnwys addasu atig, diogelwch trydanol, ffenestri a drysau newydd, adnewyddu elfennau thermol, waliau cydrannol, cynllun person cymwys, tystysgrifau perfformiad ynni ac adeiladau eithriedig.

l Adeiladwaith Peryglus

Mae'r term 'Adeiladwaith peryglus' yn ymwneud ag adeiladau neu rannau o adeiladau h.y. llechi neu deils rhydd, ond hefyd mae'n cynnwys pethau megis waliau, ffensys neu fyrddau gerddi. Mewn gwirionedd, unrhyw adeiladwaith a allai fod yn beryglus i bobl oherwydd ei gyflwr.  Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y dudalen hon.

l Dymchwel
Mae Deddf Adeiladu 7 Gorffennaf 1994 yn mynnu bod yr Awdurdod Lleol yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig am unrhyw waith dymchwel y bwriedir ei wneud.  Mae hyn yn berthnasol i unrhyw waith dymchwel adeilad cyfan neu ran o adeilad. Mae rhai eithriadau prin iawn. Gellir cael rhagor o gyngor ynghylch gwaith dymchwel ar y dudalen hon.

l Cartrefi ac Adeiladau Gwyrdd a'r Cod Cartrefi Cynaliadwy

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i'w lawrlwytho ynghylch:
Gwella eich Cartref : Canllaw Newid Hinsawdd, Cartrefi Gwyrdd i'r Dyfodol, Cod Cartrefi Cynaliadwy a dolenni i ddatblygu cynaliadwy.

l Cyfarwyddyd Technegol

Yma gallwch weld y Dogfennau Cymeradwy, a'r nodiadau cyfarwyddyd cyffredinol eraill sydd ar gael.

 

 
Manylion Cysyllt
 


Rheoli Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 3HB

Rhif ffôn: 01267 246012 / 246015
Rhif ffacs: 01267 246017

E-bost: rheoli.adeiladu

               LABC Cymru


Chartered Building Consultancy


               LABC logo