Estyn yw swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Nod ac amcanion Estyn
Nod: codi safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru trwy arolygu a chynghori, i gefnogi'r weledigaeth a'r cyfeiriad strategol a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Amcanion: darparu arolygiadau o ansawdd uchel o ddarparwyr addysg a hyfforddiant unigol, a gwasanaethau cysylltiedig, yng Nghymru; a darparu cyngor annibynnol a chadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth arolygiadau, er mwyn hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddo ffurfio ac arfarnu ei bolisi ar addysg a hyfforddiant.
Adroddiadau arolygiadau